Un da ydy Osian!

Adolygiad Llyfr C’Mon Midffild

 Awduron:                              Alun Ffred a Mei Jones

Argraffwyr:                          Hughes a’i Fab

Cynllun Clawr:                    Rosanne Joynson

Casgliad o straeon am dîm pêl droed Bryn Coch United sydd yn y nofel hon. Bryn Coch, heb unrhyw amheuaeth, y tîm pêl droed gwaethaf yn hanes Cymru! Mae’n sôn am hynt a helynt Arthur Picton, y Rheolwr, Tecwyn y gôl geidwad a’r Capten, Wali y llumanwr, George yr unig sgoriwr goliau gwerth ei halen, Sandra, merch Arthur, sydd hefyd yn wraig i George, ac mae’r rhain i gyd yn gymeriadau lliwgar iawn. Ceir yma hefyd ychydig o gymeriadau ymylol fel Lydia Thomas, mam Wali, sydd yn siarad yn wahanol iawn i bawb arall, ac yn siarad mewn damhegion! “Ac iddo fo gael dallt, dydi hi ddim yn mynd i olchi’r dillad ffwtbol ‘ma eto. Mae hi wedi cael llond bol…”

Mae disgrifiadau hynod o ddoniol yn y nofel hon ac, wrth ei darllen, roeddwn yn chwerthin dros y tŷ. Disgrifiadau fel: “Yn gorwedd fel morlo mewn lagŵn yn un o Ynysoedd Môr y De, roedd Arthur Picton yn dadmer yn y bath.”

Mae’r nofel yn wych a stori ydi hi sydd wedi cael ei selio ar y rhaglen deledu a radio orau a mwyaf digrif sydd wedi cael ei hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, yn fy marn i. Mae un hanes yn y llyfr yn sôn am ddyfarnwr, sydd hefyd yn weinidog, a hynt a helynt Arthur Picton yn ceisio ei orau i’w berswadio mai tîm Bryn Coch ddylai ennill y gêm.

Mae stori arall am Gynghorydd yn ceisio cael caniatâd cynllunio i adeiladu eisteddle ar y cae pêl droed, ac eisiau enwi’r eisteddle ar ei ôl ef ei hun, ond tydi Arthur Picton ddim yn “Cymryd dim o’i nonsans.”

Y stori olaf yn y llyfr yw hanes brecwast priodas Sandra a George lle mae popeth y gallwch ei ddychymygu yn mynd o’i le.

IMG_4146Osian, 7 Idwal

Advertisements

Osian yn y Sgwad!

Ym mis Medi cefias fy nerbyn i fod yn aelod o Sgwad Sgwennu Gwynedd. Er mwyn cael fy nerbyn roedd yn rhaid i mi ysgrifennu dwy stori fer, un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Ers i mi gael fy nerbyn i fod yn rhan o’r Sgwad Sgwennu mae dwy sesiwn wedi eu cynnal. Un ohonynt yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy a’r llall yn Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i weithio gyda’r Prifardd Aneirin Karadog a Bardd Plant Cymru eleni sef Casia William. Roedd y ddau ohonynt yn gymeriadau unigryw iawn a hwyliog a theimlaf fod fy ngwaith ysgrifennu wedi datblygu llawer ar ôl cael bod yn rhan o’r sesiynau hyn. Roeddem yn ysgrifennu am Hedd Wyn yn y sesiynau gyda Casia William a chawsom ein hysbrydoli i ysgrifennu am fynd ar daith o amgylch yr Ysgwrn a chyfle i weld y Gadair Ddu ei hun yn ôl yn yr Ysgwrn. Mae pedwar disgybl arall o flwyddyn 7 yn aelodau o’r Sgwad yn ogystal sef Martha, Grace, Anest a Nel. Cyfle gwerth chweil heb os nac oni bai!! Edrychaf ymlaen yn arw at y nesaf!

b6b0d0e8079b4719c0210c2595848f3c

Cynhaliwyd un o’r sesiynau yn yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.

IMG_3822

Dyma griw’r Sgwad Sgwennu! Grace, Anest, Nel, Martha a’r blogiwr ei hun Osian!!

 

Osian Rowlands – 7 Idwal

Blwyddyn 12 ar daith!

Cyn cau pen y mwdwl ar flwyddyn o waith caled ym mis Gorffennaf teithiodd blwyddyn 12 i Aberystwyth er mwyn treulio prynhawn yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cafodd y criw eu tywys ar daith o gwmpas y llyfrgell yn ogystal â chael y cyfle i weld llawysgrifau Aneirin a Thaliesin. Roedd hwn yn brofiad arbennig iddynt cyn mynd ati i astudio gwaith y Cynfeirdd fel rhan o’u cwrs ym mlwyddyn 13. Diolch i griw blwyddyn 12 Ysgol Tryfan am eu cwmni ar y daith.

‘Siom’ – Stori Fuddugol Ella Baker. Eisteddfod Dyffryn Ogwen, 2016. Rhyddiaith i flynyddoedd 10 ac 11.

 Siom – Dyddiadur ffoadur dienw

 Môr y Canoldir: 32 awr

Eisteddaf yn glyd rhwng fy nau riant, gyferbyn a’m brawd hŷn. Edrycha yn ifanc gyda’i wallt tywyll wedi ei dorri’n fyr, crychau chwerthin ar ei fochau ac edrychiad diniwed yn ei lygaid brown disglair, truenus. Rydym ar gwch bach pren yng nghanol Môr y Canoldir ar ein ffordd i Groeg, mae’r gwch yn llawn ond does dim ots gen i; teimlaf yn ddiogel gyda fy rhieni wrth fy ymyl.

Gadawsom y porth yn Izmir, Twrci 2 awr yn ôl. Gadaawsom Syria 32 awr yn ôl. Gadawsom bopeth, 32 awr yn ôl. Ein tŷ, ein heiddo, ein teulu, ein ffrindiau, ond nid ein ffydd, ein gobaith nac ein hatgofion. Dyna beth sy’n bwysig medd dad; ein bod ni’n cofio, am bawb a phobeth. Oherwydd nid oes unrhyw beth wedi ei golli, tan iddo gael ei anghofio. Ni fyddaf fyth yn anghofio.

Fedrai wastad ymddiried yn fy nhad i fod yn ddoeth, ond dwi’m yn synnu; mae o’n ddyn clyfar, sydd wedi bod yn dysgu ffiseg a maths mewn prifysgol am flynyddoedd. Ef yw’r mwyaf peniog yn ein teulu ni, ond nid fod mam ddim yn glyfar chwaith, mi roedd hi’n gyfrifydd hyd at bum niwrnod yn ôl. Gallaf i a’m brawd ddiolch am hynny, pe bai gan mam a dad swyddi gwael, ni fuaswn ni’n gallu fforddio ffoi, buasen ni’n gaeth i ryfeloedd Syria am weddill ein bywydau.

Athens, Groeg: 40 awr

Cyrhaeddom Groeg yn ddiogel ac yn sych, diolch byth, oherwydd dyma un o’r pedwar par o ddillad sydd gennyf, a felly mae’n syniad doeth i gadw’n holl ddillad yn lân. Ar y funud rydym wedi cael ein golchi i mewn i dorf anferth o bobl, gan don o’r ffoaduriaid eraill, sydd hefyd yn chwilio am y lori neu’r bws cywir. Mae gyrrwyr ym mhob man, yn chwifio’u harwyddion ac yn gweiddi, wrth iddynt fugeilio afonydd o bobl at eu loris a’u tryciau.

Am eiliad, collaf olwg ar fy rhieni, a chydiaf ar lawes fy mrawd wrth iddo ddechrau diflannu gyda llif y dyrfa. Wrth iddo droi ataf gwelaf ofn yn ei lygaid, ond yn syth pan mae o’n fy wynebu, mae o’n edrych yn hamddenol ac yn hyderus. Teimlaf yn ddiogel eto. Ac o fewn ychydig funudau, mae o  wedi fy arwain trwy’r môr o bobl, sy’n gwrthio ac yn gweiddi, i’r lori sydd wedi ei labelu ‘I Macedonia’  ac wedi estyn ei ffôn symudol i decstio mam.

Gwersyll ym Macedonia: 73 awr

Ers croesi’r ffin rydym wedi trafeilio am oriau i gyrraedd y gwersyll cyntaf, mae’r daith wedi gwneud i’r haul fynd i gysgu hyd yn oed. O’r diwedd gallwn ni wneud defnydd o’r blancedi rydym wedi bod yn eu cario gyda ni’r holl ffordd yma. Mae fy nhraed yn lladd ac mae fy mol yn wag, buaswn i’n gwneud unrhyw beth am blat mawr o fwyd, ond yn anfoudus mae’n rhaid i ni ddogni ein bwyd; does gennyn ni ddim syniad am ba mor hir fyddwn ni’n gorfod aros cyn cyrraedd y DU. Dywed mam y byddwn ni’n gorfod codi am bedwar yn y bore er mwyn i ni allu sicrhau lle ar y bws fory, gobeithio gallaf gysgu gyda’r holl sŵn crio.

Ffin Serbia: 91 awr

Heidiasom o’r gwersyll olaf ym Macedonia tua awr yn ôl, a phenderfynom i gario ymlaen a cheisio croesi’r ffin heddiw, gwyliaf ein trydydd bws yn gadael wrth i ni droi at y ffin. Ond wrth agosau, gwelaf wersyll bach o ffoaduriaid, a sudda fy nghalon. Clywaf weiddi a chrio, ac wrth i ni wthio i flaen yr haid gwelaf fod llinell o blismyn yn atal pobl rhag mynd heibio. Am heddiw fydd rhaid gosod y babell yma, a chysgu; heddiw fydd y diwrnod anodd cyntaf. Mae’r siom wedi cyrraedd.

Lleoliad anhysbys, Serbia: 286 awr

Ar ôl treulio tri diwrnod ar y ffin, rydym wedi cerdded am filltiroedd dros diroedd Serbia am bron i dri diwrnod. Rydw i’n teimlo fel fyddwn i’n cwympo unrhyw funud, ond rwyf yn bwydo oddi ar gryfder y bobl o’n cwmoas; fy nheulu, a’r holl ffoaduriaid eraill, rhai mor ifanc â phedwar neu bump. Ni allaf ddychmygu pa mor anodd maen nhw’n ei chael hi; tair blynedd yn ôl buaswn i wedi blino ar ôl y diwrnod cyntaf o gerdded, heb sôn am dri diwrnod! Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi gario ymlaen i fod yn gryf ac yn ddewr os ydw i eisiau cyrraedd y DU, mae ‘na filltiroedd i fynd. Ond gyda help fy nheulu, mi fydda i’n iawn, gallaf wastad ymddiried yn fy nheulu i fod yma.

Ffin Hwngari: 424 awr

Cyrrhaeddom ffin Hwngari i ddarganfod fod siom wedi cyrraedd cyn i ni gyrraedd hyd yn oed, yn aros amdanom yn ffens 13 troedfedd o uchdersy’n cario ymlaen am filltiroedd. Nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn croesi’r ffin yma, ac am y tro cyntaf, mae o wedi fy nharo; mae pobl yn ein casau. Ein casau am ddim rheswm. DIM RHESWM!

Slofenia: 673 awr

Ers i ni orfod newid ein cwrs yn Hwngaria, rydym wedi teithio trwy Groatia a hanner o Slovenia. Doedd dim ffordd o gael ein harian yn ôl o’r cwmniau bysiau roeddwn wedi bwcio o flaen llaw yn Hwngari, felly rydym wedi gorfod hanneru ein prydau o fwyd er mwyn arbed arian. Hefyd rydym yn gorfod cerdded gweddill y ffordd i ffin Yr Eidal, ac mae’n debyg bydd rhaid cerdded trwy’r Eidal hefyd, rwyf yn dechrau poeni y byddwn ni’n cyrraedd y DU heb unrhyw bres yn weddill.

Rhywle yng nghanol Yr Eidal: 854 awr

Mae fy nghefn wedi llosgi, mae fy nhraed yn gwaedu, mae fy mol yn wag, mae fy nillad yn fudur a dydw i heb gysgu am 18 awr. Ond i edrych ar yr ochr dda…wel…mae fy mag yn ysgafnach, oherwydd dim ond dau bâr o ddillad ac un flanced yn unig sydd gen i’n weddill. Felly i ddod i ganlyniad; does dim ochr dda… Ond ges i gerrydd gan dad am ddweud hynny, dywedodd ein bod ni’n hynod o lwcus i fod yn ffoi o Syria, a phe baen ni ddim yn ffoi, efallai y bydden ni wedi cael ein hanafu…neu’n waeth erbyn hyn.

Y Jyngl, Callais, Ffrainc: 2000 awr

Cyrhaeddom yma fis yn ôl, dyma’r gwersyll mwyaf rydym wedi aros ynddo. Roeddwn i wedi clywed llawer am y gwersyll yma, ond mae o’n llawer gwaeth nag oeddwn i’n ddisgwyl. Mae yma sbwriel ym mhob man, a phobl ym mhob man; pobl drist, pobl sâl, pobl ddiniwed sydd yn haeddu mwy. Mae siom wedi heintio’r gwersyll yma, ac wedi’i gnoi…

 4314 awr

Rydym wedi bod yn aros am gyfle i fynd i’r DU yma yng Nghallais am tua thri mis. Rydym wedi aros yn amyneddgar am dri mis! Mae arian yn diflannu fel dŵr ar ddiwrnod poeth, felly mae’n rhaid i ni aros am gyfle i groesi’r Sianel yn gyfreithlon. TRI MIS! A dywedodd y gwirfoddolwyr fod cyfle i ni fynd o’r diwedd. Ond mae yna un broblem; dim ond plant, henoed a phobl anabl sydd yn cael y cyfle i fynd ar y funud. AR ÔL TRI MIS! Ond wrth gwrs mae fy rhieni yn fodlon gwneud unrhyw beth i fi a fy mrawd, ond ni allaf i eu gadael…

Y Sianel, Cefnfor yr Iwerydd: 4337 awr

Eisteddaf yn glyd rhwng dau ddiethryn, gyferbyn a’m brawd hŷn. Edrycha yn hen gyda’i wallt tywyll yn flêr at ei ysgwyddau, crychau ar ei dalcen ac edrychiad rhywun sydd wedi dioddef yn ei lygaid brown. Rydym ar gwch bach pren yng nghanol Y Sianel ar ein ffordd i Loegr, mae’r cwch yn llawn ond does dim ots gen i; rwyf wedi arfer teimlo’n anniogel.

Gadawsom ein cartref yn Syria chwe mis yn ôl. Gadawsom bron i bopeth, chwe mis yn ôl. Ein tŷ, ein heiddo, ein teulu, ein ffrindiau ond nid ein ffydd, ein gobaith nac ein hatgofion.

Gadawsom Callais, Ffrainc 2 awr yn ôl. Gadawsom ein rhieni, ein ffydd ac ein gobaith, 2 awr yn ôl. Ond nid ein hatgofion, byth ein hatgofion; dyna beth sy’n bwysig. Oherwydd nid oes unrhyw beth wedi ei golli, tan iddo gael ei anghofio. A na fydda i fyth, byth yn anghofio…

…anghofio’r siom

Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 – Rhyddiaith Bl10 ac 11

Cadi Roberts Bl11 oedd yn fuddugol gyda’r blog hwn!  Llongyfarchiadau MAWR iddi!

DAMWAIN

Lara Swyn Preis

@lara_swyn

Blogiwr ifanc Cymraeg

DILYN 481                                         398 O DDILYNWYR

31/01/16

Haiiaaa, sori ydw dw i’n gwybod nad wyf wedi bod yn diweddaru fy nhudalen ers tridiau ond dw i yma rwan!  Wel dw i’n un ar bymtheg fory a gallaf ragfynegi mai’r unig beth dw i am ei glywed yn yr ysgol ydi “sweet 16” a “16 and legal” ( i brynu tocyn loteri wrth gwrs!). Mae o’n rhyfedd sut mae’r Llywodraeth yn gallu penderfynu yr oedran sydd rhaid i ni fod cyn prynu tocyn loteri neu i gael rhyw. 16 sydd rhaid i ni fod i gael bod yn rhieni a bod yn gyfrifol am fywyd rhywun arall ond 17 sydd rhaid i ni fod i yrru car?!  Rhowch eich barn yn y sylwadau, ella nad wyf yn deall y pethau ‘ma nac yn cymryd digon o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond ‘hei  ho’ dyna fy marn i! Nid yw hanner disgyblion un ar bymtheg ein ysgol yn gwybod sut i dalu biliau neu sut i agor tin o fîns hyd yn oed! Ond bai mai byw yn y twll yma sydd wedi gorfodi i mi dyfu mor gyflym . . . be sydd haru mi? Dw i fod i deimlo’n llawn cyffro a’m pen yn llawn syniadau sut i ddathlu, dwi’n teimlo fel sach o datws. Plîs gollyngwch sylwadau beth allaf ei wneud i ddathlu, ydw, unwaith eto dw i’n funud olaf yn gwneud trefniadau . . . Wps! O, a chofiwch mae’n rhaid i’r dathliadau ‘BEIDIO’ cynnwys alcohol oherwydd eu ‘polisi’ nhw yn y lle ‘ma! Fel rydych chi gyd yn ei wybod nid oes llawer o lwc wedi digwydd i mi o’r diwrnod cyntaf ar y ddaear yma! Alcohol a phobl ddifeddwl a meddw mewn parti ddaeth â mi i’r byd yma a difetha fy mywyd i. Nid nad wyf i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yma i mi ond dydw i erioed wedi cyfarfod fy nheulu gwaed.  Do, dw i wedi cael fy maethu ddwsin o weithiau ond nid oes neb wedi fy mabwysiadu a’r broblem yw nad oes gen i neb sydd yn yr un sefyllfa â mi i siarad â nhw. I’r rhai ohonoch sydd dal ar goll wrth wrando arna i, mae’r teimlad o beidio ag adnabod dy deulu gwaed yn teimlo fel bod mewn torf yn llawn dieithriaid yn adnabod neb neu fel cerdded lawr eil yn Tesco am weddill dy fywyd yn chwilio am dy rieni gyda dy ben yn edrych ochr i ochr am oriau yn methu’n lân a chael hyd iddynt. Mae o’n deimlad afiach gwybod mai’r bobl sydd i fod i dy garu di’n fwy na neb arall yn y byd yw’r union bobl sydd eisiau cael gwared ohonot ti ac na fyddant eisiau cysylltu â thi fyth eto. Erbyn hyn dwi wedi derbyn na ddaw fy rhieni yn ôl i fy nghasglu i ac mai fan hyn fydda’ i hyd nes y bydd y rhain yn rhoi cic allan i mi i gael hyd i‘n nghartref fy hun. Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonoch yn edrych ymlaen at y dydd pan fyddwch chi’n symud allan. Ond i mi mae’r diwrnod yna yn fy nychryn. Teimla fel camu allan i dywyllwch ac nid oes golau ar ben y llwybr. Dw i’n cofio pob mlynedd hyd nes yr oeddwn i’n ddeg mlwydd oed yn eistedd ar garreg y drws yn mynnu bod mam neu dad am ddod i fy nghasglu i. Buaswn yn eistedd yno am oriau dim ots beth fyddai’r tywydd a Sera y gweithiwr cymdeithasol yn dweud yr un linell bob blwyddyn “os fyddi di’n isda ‘fana llawar hirach fydd pobl yn dechrau meddwl mai ‘sdatsiw’ wyt ti!” a dwi’n cofio’r union dôn oedd ganddi yn ei llais, rhyw dôn goeglyd yn meddwl y gallai wneud i mi chwerthin. Pam feddyliais bod rhywun am ddod i fy achub? Gwastraff pen blwydd llwyr oedd eistedd ar garreg y drws ‘na ac yna byddwn i’n teimlo mor flin wrth i bawb geisio ‘nghysuro i gan dweud – “fe ddown nhw rhyw dro eto ‘sdi” – y fath gelwydd noeth! Sylweddolais wrth eistedd yno pa mor ddiwerth oeddwn i, mor ddiwerth ag addurn porslen ar sliff ben tân, yno i edrych arno a cherdded heibio iddo, a chael fy hel o un lle i’r llall. Hen ddynes ddiemosiwn oedd hi, dim syndod ei bod wedi gadael. Roedd hi’n un o’r bobl hynny oedd yn busnesu ym mhob peth ac yn siarad tu ôl i gefnau pawb. Dwi’n cofio ei ffugenw gennym ni – ‘Sera Swrth’. Doedd ganddi ddim parch tuag atom.  Fyddai hi byth yn dod i nosweithiau rhieni, na sioeau ‘Dolig, nag unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol yr oeddem yn cymryd rhan ynddynt o ran hynny. Buasai’r athrawon yn cael ‘hartan’ o fy ngweld i mewn noson rieni erbyn hyn!  Pan oeddwn i’n ifanc roedd pob siom fel bricsen a ddaeth, dros y blynyddoedd, yn domen ar ben fy hyder. Roedd gweld rhieni yn casglu plant o’r ysgol neu o bartïon a phob cwts, pob gwên yn caledu fy nghalon fymryn yn fwy.   Sera fyddai’n dod i fy nghasglu i o’r ysgol ac roedd ei sgyrsiau yn y car yn gampweithiau o ddiflastod pur.

Fy nghas wers yn ysgol gynradd oedd ABaCh. Gosododd athrawes lanw waith cartref i greu coeden deulu – doedd ganddi ddim clem fy mod i mewn cartref – a minnau heb glem pwy oedd fy rhieni heb sôn am nain a thaid neu ewyrth a modryb! Ni soniais wrth neb, dim ond palu mwy o gelwyddau ac esgus anghofio’r gwaith a’r athrawes yn dweud “Rhoddais wythnos i chi wneud gwaith cartref ddylai gymryd hanner awr a dwyt ti heb allu dod ag unrhyw beth i mi!” Gallaf deimlo’r dagrau’n cronni tu ôl i fy llygaid heddiw a minnau’n eu cadw i mewn. Aeth y dosbarth yn ddistaw, ddistaw gan wybod pam na wnes i’r gwaith . . . Yna ffrwydrais.  Es i’n wallgo ac roedd fy ngwaed yn berwi! Cofiaf sgrechian “Sgen i’m teulu i rhoi ar eich blydi coedan! Sori bo fi ddim yn ‘normal’!” ac yna rhedeg i’r toiled i eistedd yno am byth yn crio a chrio…

Buasai’n well gen i pe bai ‘mam’ wedi cael erthyliad na fy ngadael i i hyn. Neb i’w galw’n deulu nac unman i’w alw’n ‘adra’. Dim gobaith.  Dywedodd rhywun enwog rhyw dro, bardd dwi’n meddwl, “os nad ydym yn gwybod o ble yr ydym yn dod, ni fyddwn i’n gwybod i ble’r ydyn ni’n mynd”. Dwi’n ddi-bwys i bawb. Dwi’n wastraff lle. Dwi’n ddamwain…

Wow! Ocê, ‘wan dwi’n sylwi pa mor ddigalon oedd y blog yna :/ Gobeithio fydda’ i’n fwy o gog nag o gloman ‘fory, ddim a fy mhen yn nghanol yr holl blu ‘ma fel ydw i heddiw!  Cofiwch chi, beth braf ydi cal bwrw bol.  O a plllîîîssss helpwch fi i gyrraedd 400 o ddilynwyr cyn diwedd yr wythnos! Nos da lyflis ❤

 

Eisteddfod Dyffryn Ogwen – Rhyddiaith Blwyddyn 10 ac 11

Dyma stori fuddugol Martha Glain Evans o flwyddyn 11! Llongyfarchiadau mawr iddi!

Babi yw bwli’n y bôn

 Diwrnod arall yn hualau’r system addysg. Un o’r dyddiau ‘na lle does dim cip i’w gael o’r lliw glas yn yr awyr, dim ond llwyd llipa. Roedd hi’n ddiwrnod llipa hefyd. Un o’r dyddiau hynny lle mae’r calendr yn berffaith wag. Diwrnod o’r flwyddyn a fydd yn cael ei anghofio’n ddigon buan ac yn diflannu o’r cof.

Dw i’n cerdded i lawr grisiau ac mae’r arogl yn fy nharo i fel ton. Ond rwyf wedi arfer. Dw i’n cerdded i’r gegin yn droed-noeth ar y teils oer, caled a gwneud paned o dê i mi a’n nhad. Wrth i’r tegell ferwi dw i’n edrych drwy’r ffenest fudr yn drist. Be wnawn nhw heddiw? Pam na allen nhw fy ngadael i fod? Dw i’n deffro drwyddaf wrth i’r tegell chwibanu’n boenus. Dw i’n cerdded i mewn i’r ystafell fyw lle mae fy nhad yn gorwedd ar ei fol ar y soffa byg. Mae’r teledu’n grwgnach yng nghornel yr ystafell ac mae golau melyn y bwlb yn taflu gwawr oeraidd ar yr ystafell. Dw i’n cerdded ato, gan geisio osgoi’r ras rwystrau o ganiau cwrw a bocsys pitsa sy’n gorwedd yn anniben ar y carped oedd wedi gweld dyddiau gwell. Yna, wrth ddal fy nhrwyn dw i’n gafael yn fy mag ysgol ac yn cerdded allan o’r tŷ, gan gloi’r drws ar fy ôl.

Dw i’n lapio fy nghôt denau o’m hamgylch yn dynn i’m hamddiffyn rhag y gwynt main. Wrth i mi gerdded yn nes at yr ysgol, dw i’n poeni yn arw am yr atraith a fydd yn fy wynebu i eto heddiw.  Ca-ti, Ca-ti, Ca-ti. Gyda phob cam, dw i’n clywed ei henw yn atsain yn fy mhen. Mae’n stumog i’n glymau wrth i mi weld yr ysgol yn dod yn nes ac yn nes. Mae degau o blant ysgol yn sefyll o flaen yr adeilad brics coch, yn chwerthin gyda’u ffrindiau, yn chwarae pêl-droed ac yn chwarae gyda’u ffonau symudol. Tydi Cati ddim i’w gweld yn unlle. Wrth i mi gerdded heibio, mae pawb yn troi i edrych arna i dan chwerthin. Dw i’n teimlo dagrau yn priclo yn fy llygaid a dwi’n brasgamu i lawr yr iard. Gweiddai un bachgen;

“Hei! Sbiwch ar Mina-Ceiniog-A-Dima!”

Mae’r ysgol gyfan yn dechrau chwerthin. Dw i’n teimlo fy mochau’n cochi ac mae’r dagrau yn powlio i lawr fy wyneb. Ar ôl be deimlodd fel milltir o gerdded, rwy’n cyrraedd drws yr ysgol ac yn ffoi rhag y chwerthin haerllug tu allan. Pan dw i’n gwneud yn siŵr fy mod i o’r golwg dwi ’n cyflymu ac yn rhedeg i’r toiledau merched. Dw i’n eistedd ar sêt y toiled mewn ciwbicyl gwag, unig yn saff yn fy nghell, nes fod y gloch yn canu.

Dw i’n cerdded yn araf i mewn i’r ystafell Gymraeg ac yn eistedd yn ddi-ffwdan ym mlaen y dosbarth. Mae pawb yn gwybod mai ond y bobl cŵl sydd yn eistedd yn y cefn. A beth bynnag, rwyf fel arfer yn cael ychydig o lonydd pan rwyf yn eistedd ar fy mhen fy hun. Pan mae’n rhaid i mi weithio gydag eraill mae’r broblem. Mae’r ystafell wedi cael ei beintio yn lliwiau traddodiadol Cymru. Waliau gwyrdd fel leim, ffenestri glân gwyn a drws coch fel calon yr ystafell. Mae’r wers yn llusgo’n boenus ar hyd yr awr, dwi’n gaeth mewn pwll di-waelod diflas, ac rwyf bron â chysgu pan mae Mr Morris yn gweiddi;

“Mina Roberts!”

Dw i’n codi fy mhen mor gyflym dw i ddim yn gwybod lle ydw i. Ond yna rwy’n ffocysu ar wyneb blewog Mr Morris ac yn dod yn ôl i’m synhwyrau.

“Y, ia syr?”

“Pwy ysgrifennodd ‘Y Llwynog’ Mina?”

O na. Dw i mewn dyfroedd dyfnion rŵan. Dw i’n edrych o gwmpas yr ystafell yn anobeithiol ac rwyf yn clywed llawer o biffian chwerthin tu ôl i mi. Dw i’n edrych ar y bwrdd gwyn tu ôl i Mr Morris ac yn gwenu’n ddiolchgar.

“R.Williams Parry, syr?”

“O,” meddai’r athro yn ddryslyd. “Ie wir, da iawn,” meddai’n sych wedyn. Ha! Does dim byd gwell na phrofi athro yn anghywir nagoes?!

O bob rhan o’r dydd, amser egwyl rwyf yn ei gasau fwyaf. Does gen i’m arian i fynd i brynu darn o dost euraidd gyda ychydig o jam melys ar ei ben, felly does unman i fi fynd. Fel arfer beth rwyf yn gwneud yw aros yn fy nghell glud yn y toiledau nes bod y gloch yn canu. Rwyf ar fy ffordd yno rŵan, yn brysio at ddiogelwch ond dw i’n stopio yng nghanol cam pan rwyf yn clywed lleisiau o’r tu fewn. Mae’r gwaed sy’n llifo yn fy ngwythiennau yn troi’n rhew.

Cati.

Cati yw’r ferch deneuaf, brydferthaf, dalaf ond mwyaf atgas yn yr ysgol gyfan. Mae pawb yn ei charu, hi yw’r Frenhines a’r ysgol yw ei theyrnas. Mae’i ffrindiau yn ei haddoli. Mae hi’n andros o gyfoethog oherwydd bod ei thad yn aelod o’r Senedd. Cati yw’r rheswm dw i’n deffro’n ganol nos yn crio.

Beth ydw i am wneud rwan? Does unlle i guddio, dw i’n sownd rhwng bariau ei bwlio. Does dim ffoi. Cyn i mi allu gwneud unrhyw fath o benderfyniad mae’r drws yn agor a dyna hi, yn sefyll o’m blaen. Dwi’n edrych i fyny yn geg-agored. Mae ei gwefusau coch yn lledu’n yn wên berffaith, ei dannedd fel perlau ar sidan coch. Dwi’n ochr-gamu tu ôl iddi ac yn rhedeg i mewn i giwbicyl gwag tu ôl iddi. Mae fy anadl yn frysiog a cheisaf dawelu, ond mae’n rhy hwyr. Dw i wedi fy nal.

Dw i’n clywed lleisiau a sŵn traed yn cerdded i mewn i doiledau’r merched. Dw i’n dal fy ngwynt.

“Mina-aa? Wyt ti yma-aa?” Cana Cati’n sbeitlyd. Chwardda ei ffrindiau i gyd mewn lleisiau uchel, main. Mae pawb yn dawel am ychydig o eiliadau.

“Fydd rhaid i ti ddod allan cyn bo hir sdi, mae’r gloch yn canu mewn dau funud!”

Ydi o wir?? Dw i’n edrych ar fy oriawr yn frysiog. Gwir, bob gair.

“Be am i ni aros i ti, nes dy fod ti’n barod i ddod allan ie?”

Be ydw i am wneud rŵan?! Dw i methu aros yma am byth! Mae fy nghell glud wedi troi’n garchar erchyll! Bydd rhaid i mi drio eu hosgoi rhywust neu’i gilydd. O, Mina! Beth wyt ti wedi gwneud?! Tyrd wan, bydd rhaid bod yn ddewr. Tydyn nhw ddim yn disgwyl i mi ddod allan o ddewis, felly mae gen i fantais. Iawn, dyma ni’n mynd.

Un, dau, tri!

Dw i’n dad-gloi’r clo ac yn rhedeg nerth fy nhraed tuag at y drws. Ond mae’i ffrindiau hi’n rhy gyflym! Mae dwy ohonynt yn gafael ynof i  gerfydd fy siwmper ac yn fy nhaflu ar y llawr. Dw i’n trio codi i fyny ar fy mhenelinau ond mae na ferch arall yn fy nghicio i yn fy asennau, yn gwneud i mi sgrechian mewn poen. Dw i methu gweld dim byd, mae’r dagrau yn fy nallu i. Ond dwi’n teimlo rhywun yn tynnu fy mag o fy nghefn yn frwnt a dw i’n clywed sŵn rhywun yn gwagio fy eiddo mewn twmpath ar y llawr. Ond does gen i ddim nerth. Mae’r gic yn fy asennau wedi sugno’r holl egni ohona i. Dw i’n gorwedd ar y llawr budur yn dwmpath anobeithiol.  Yna, dw i’n clywed cloch yr ysgol yn canu, ond mae o ddeg gwaith cryfach nag arfer ac mae’r sŵn yn bowndio o bob cornel o fy ymenydd. Mae’r genod i gyd yn rhedeg o’r toiledau wrth biffian chwerthin ac rwyf ar fy mhen fy hun. Eto. Yn araf, dw i’n codi ar fy nhraed, casglu fy eiddo a cherdded trwy’r drws i fy ngwers nesaf yn ddi-ffwdan.

Fy ngwers nesaf yw mathemateg. Dw i’n cerdded i mewn yn gloff ac yn eistedd yn fy lle arferol ym mlaen y dosbarth. Mae’r ystafell fathemateg yn blaen iawn o’i chymharu gyda’r dosbarth Cymraeg, waliau plaen gwyn, carped glas ac ambell i boster ar y wal, dyna i gyd. Ond mae hyd yn oed y lleiaf o liw yn achosi i’m pen i droi. Mae’r wers yn cychwyn a dw i’n dechrau ysgrifennu syms i lawr ar ddarn o bapur. Ond dim ond tri chwestiwn rwyf yn gallu ddioddef cyn i mi ddechrau teimlo’n sâl eto. Felly, dwi’n gosod fy mhen ar y bwrdd oer, llyfn ac yn cau fy llygaid ac yn dechrau teimlo’n gysglyd…

“MINA!”

Be! Wow! Be sy’n digwydd?? Dw i’n edrych i fyny i weld wyneb boch-goch fy athrawes o’m blaen,

“Mina, be sy?”

“Mae’n rhy thic i ddalld y cwestiynau Miss!” gweidda lais cyfarwydd o gefn y dosbarth.

Dyna ni. Dw i wedi cael digon. Mae dagrau yn ffurfio yn fy llygaid. Ond nid dagrau trist, ond dagrau o gasineb pur tuag at bawb yn yr ysgol. Dwi’n teimlo fy wyneb yn cochi ac mae’n nwylo i’n cyrlio’n ddyrnau. Dw i’n sefyll ac yn troi o gwmpas i wynebu’r dosbarth. Mae pawb yn syllu arna i mewn sioc. Dw i’n anadlu’n ddwfn ac yn dweud;

“Cati? Be sy? Be ydw i erioed ‘di neud i chdi? Dim byd. Yn union. Felly pam bod rhaid i chdi wneud i blant fel fi ddioddef am ddim rheswm? Ydi o’n dy wneud di’n fwy poblogaidd? Ydi brifo plant di-niwed yn gwneud i chdi deimlo’n fawr? Os ydi hyn yn wir, Cati, gen ti ma’r broblem, nid fi. Y gwir ydi, Cati, babi yw bwli yn y bôn!”

Dw i’n edrych i fyw ei llyagid gwyrdd-las, ac mae ofn ynddynt.

“Ti’n gwybod, Cati, dim chdi ydi’r unig un. Mae pawb yn yr ysgol gyfan ar fai!!” meddaf gan edrych o gwmpas y dosbarth.

“Dw i heb gael un dydd o heddwch yn y carchar ‘ma, ers blwyddyn saith! Dw i’n deffro yn ganol nos yn crio oherwydd pobl fel chi. Ydach chi’n sylweddoli sut mae geiriau yn gallu brifo rhywun gymaint? Ond dw  i ddim yn dweud hyn er mwyn gwneud i chi deimlo’n euog, Dwi’n dweud hyn er mwyn i chi wybod fy mod i wedi cael digon. O’r ysgol ‘ma, o’r plant ‘ma ac or bywyd ‘ma!”

Mae dagrau poeth yn llifo i lawr fy wyneb rŵan, ac mae fy nwrn wedi ei gau mor dynn, dwi methu teimlo blaenau fy mysedd.

“Do! Dw i wedi cael digon! Dw i ddim yn mynd i gymryd eich artaith chi ddim mwy!”

Dw i’n gafael yn fy mag yn frysiog ac yn rhedeg allan o’r ystafell. Dw i’n disgwyl am y chwerthin, ond does dim byd. Roedd yr ysgol yn dawel fel y bedd. Dw i’n cyrraedd y toiledau unwaith eto. Dw i’n cloi fy hun yn fy nghiwbicyl ac yn wylo am oriau. Mae fy mhen yn troi fel top, a dw i’n teimlo’n ben-ysgafn. Er mawr syndod i mi, does neb yn dod ar fy ôl.

O’r diwedd, mae’r gloch fondigrybwyll yn canu ei halaw gas, a dw i’n cael fy ngorfodi i gerdded allan o’r toiled. Dw i’n paratoi fy hun am y gwaethaf. Beth oeddwn i’n feddwl? Fe wnes i ffŵl llwyr o’n hun, wna i byth glywed y diwedd ohoni. Unwaith eto dw i’n lapio fy nghôt amdana i ac yn trio dianc o’r ysgol fel ffoadur mor gyflym â phosib. Ond, does dim chwerthin. Mae pawb yn cerdded heibio fel pe bawn i’n ddisgybl cyffredin. Mae ambell berson hyd yn oed yn gwenu i ddweud helo. Be sy’n digwydd? Ydy hyn yn rhyw fath o jôc? Mae merch dal gyda gwallt hir golau yn cerdded ata i, dwi’n meddwl fy mod wedi gweld ei hwyneb yn yr ystafell fathetmateg. O, na.

“Haia, Mina? Ti’n iawn?”

Dw i’n edrych arni mewn syndod. Sut mae hi’n gwybod fy enw?

“Oni eisiau dweud dy fod ti wedi bod yn ddewr iawn, ac mae pawb yn yr ysgol yn meddwl hynna hefyd.”

“Ymm..diolch.”

“Mae gen bawb barch atat ti rwan, Mina. Fe wnest ti’r peth iawn,” meddai, a gwasgodd fy ysgwydd yn garedig a cherdded i ffwrdd.

Dw i wedi wneud o. Dwi’n rhydd. Mae pwysau’r byd wedi codi oddi ar fy ysgwyddau, ac am y tro cyntaf am fy mywyd, does arna i ddim ofn. Dwi’n teimlo gwên sleifio ar fy wyneb yn swil. Dw i’n cerdded o’r ysgol wrth fy modd. Mae’r awyr yn berffaith las, fel melfed hyfryd. Mae’r gwres hafaidd yn sgleinio’n gynnes ar fy ysgwyddau ac mae’n mhen i’n glir. Dw i’n cymryd y ffordd hir adref, tydw i ddim eisiau i’r teimlad yma ddod i ben. Dw i bron yn sgipio i lawr y palmant pan dwi’n cyrraedd fy nhŷ.

Dw i’n cerdded i mewn i’r ystafell fyw, ac mae fy nhad dal i gysgu ar y soffa brwnt. Mae’r baned yn eistedd ar y bwrdd yn oer. Y teledu yn hymian ei diwn anghysurus yng nghornel yr ystafell. Na, plis…

“Dad…?”

Dw i’n rhedeg ato, wrth daflu fy mag ar y llawr yn frysiog.

“Dad!”

Dw i’n teimlo’r curiad ar ei wddf.

“DAD!”

Eisteddfod Dyffryn Ogwen – Rhyddiaith Blwyddyn 7 – 9

Dyma stori fuddugol Ella Baker – llongyfarchiadau mawr iddi!

 

Y Dasg

Awst 27

Dŵr. Byddwn i fel arfer wedi bod yn ddiolchgar i glywed y gair yma, ond ar y dydd yma roeddwn i’n casau fy hun oherwydd fod gen i glustiau. Am y tro cyntaf yn fy mywyd roedd y gair ‘dŵr’ wedi codi curiad fy nghalon am y rheswm anghywir; oherwydd roeddwn i’n nerfus.

 

Roedd 15 mlynadd wedi treulio ers i mi weld golau am y tro cyntaf, dw i’n siŵr eich bod yn disgwyl y byddwn i’n dathlu’r pen blwydd yma fel unrhyw ben blwydd arall. Ond mae troi yn 15 yn garreg filltir am reswm gwahanol yn fy llwyth i. Pan mae rhywun yn troi yn 15 maen nhw’n oedolyn annibynnol, ac yn waeth byth mae’n rhaid iddyn nhw brofi ei hun.

 

Awst 25

Roedd arweinwyr y llwyth yn trafod beth roeddwn i orfod ei wneud i brofi fy hun, ac oherwydd fy chwilfrydedd penderfynais i glustfeinio. Ar ôl ychydig o sgwrsio tawelodd pawb yn sydyn.

 

“Rydym yma heddiw i drafod sut gall Abu brofi ei hun. Rydym ni gyd yn gwybod fod Abu, mab Kumbukani, yn troi yn 15 mewn ymhen tridiau.” Dyna’r amser cyntaf i mi glywed enw fy nhad ers i’r anialwch gymryd ef a’m brawd hŷn, Ra, ddwy flynedd  ynghynt. Ond ceisiais beidio â meddwl am hynny, felly meddyliais am y sgwrs tu fewn i’r babell.

 

“Mae ei dasg wedi ei phenderfynu, mewn pedwar diwrnod bydd Abu yn teithio ar ei ben ei hun i ddarganfod ffynhonnell dŵr i’n llwyth.” Y rheswm dros hyn ydi oherwydd mae fy llwyth i’n gwersylla ger ffynhonnell dŵr am dymor cyfan, ond cyn i’r llwyth deithio i’r gwersyll nesaf mae’n rhaid i rywun ddarganfod y ffynhonnell dŵr agosaf. Dyna beth roedd rhaid i mi ei wneud. Ac ers hynny roedd y gair ‘dŵr’ wedi cael ei ysgythru ar fy meddwl.

 

Awst 27

Ar y noson olaf o’m plentyndod gorweddais yn fy sach gysgu yn syllu ar fy mrodyr . Roeddwn i’n arfer rhannu pabell efo Ra – fy mrawd hŷn, ond ers i’r anialwch ei herwgipio ef ac fy nhad, dw i’n rhannu pabell efo fy mrodyr iau: Tavi a Bassam. Drws nesaf yn y babell efo mam mae fy chwiorydd iau: Makena, Jaha a Zakai fy mrawd bach deuflwydd oed. Ac i orffen mae fy chwaer hŷn, Oni, mewn pabell gyda’i chariad a’i babi newydd.

 

Clywais Bassam yn anadlu’n dawel a gwelais ei anadl yn glir yn y tywyllwch, roedd y sŵn fel y môr yn dod i mewn ac allan, i mewn ac allan…

 

Awst 28

Deffrais i sŵn lleisiau tu allan i’r babell, wrth i mi gerdded yn ofalus allan o’r babell gwelais fod rhai o’r llwyth wedi codi yn barod ac wedi dechrau gweithio. O gornel fy llygaid gwelais ffigwr yn cerdded tuag ata i, prentis yr arweinydd ysbrydol oedd hi.

“Mae Imamu yn gofyn amdanat ti,” meddai yn dawel cyn troi a dechrau fy arwain at babell Imamu, yr arweinydd ysbrydol.

 

Treuliodd Imamu y bore cyfan peintio’r marciau llwythol ar fy wyneb, brest a fy mreichiau, yn ogystal â mwmian rhyw fath o swyn i fy niogelu ar fy nhaith. Wedyn wrth i mi orffen fy mrecwast daeth yr arweinwr, Okoro, ata i a dweud fod y seremoni Kukua yn dechrau am hanner dydd. Y seremoni Kakua ydi seremoni dod yn oedolyn.

 

Gwisgais y wisg seremonïol cyn cerdded allan o fy mhabell i benlinio o flaen y tân. Y cam cyntaf o Kukua oedd dweud yr Ahadi, sef llw arbennig. Wrth ddweud yr Ahadi torrais fy ngwallt, o fod hyd at waelod fy nghefn hyd at fy ysgwyddau, a’i osod ar ddarn o risgl coeden. Yr ail gam o Kukua oedd cael gwaed o fy llaw i ychwanegu at fy ngwallt, mae rhain yn symbol o fy hunaniaeth. Yn olaf rhoddais y darn o risgl coeden ar y tân i ddangos fy mod i’n deall difrifoldeb y seremoni.

 

Ar ôl cael bwyd a golchi’r marciau llwythol i ffwrdd roedd hi’n dechrau tywyllu. I orffen y dydd roedd rhaid mynd i babell Okoro, yr arweinydd, a chael fy nhatŵs. Un dros fy nghalon i ddangos cariad yn cysylltu â thatŵs yn mynd yr holl ffordd lawr fy mraich gryfaf (fy mraich chwith) sy’n symbol o gryfder, ac yn olaf tatŵ fy llwyth ar fy nhalcen i ddangos ffyddlondeb at fy nheulu.

 

Erbyn i mi orffen gael fy nhatŵs roedd llawer o bobl wedi mynd i’w gwely yn barod, felly penderfynais fynd hefyd, er fy mod i’n gwybod na fyddwn i’n gallu cysgu.

 

Awst 29

 

I feddwl fod y llwyth cyfan yn dibynnu arna i ddarganfod ein gwersyll nesaf ac roedd yna siawns da na fyddwn i’n goroesi’r daith ond roeddwn i’n eithaf hyderus. Roeddwn i am deithio allan i safana Affrica ar fy mhen fy hun, wel bron. Fy unig gwmni oedd Vumbi, fy nghamel a Baako, fy ffrind gorau; dingo. Mae dingo yn debyg i flaidd gyda chôt fyr ond maen nhw’r un lliw â thywod.

 

Ar ôl pacio’r hanfodion gafaelais yn fy ngwaywffon a fy nghyllell wedyn mynd i ddweud hwyl fawr. Nesaf gafaelais ar dennyn Vumbi, chwibanais am Baako a dechreuais ar fy nhaith. Roeddwn i wedi gwisgo siorts brown golau a chôt o fwd caled ar waelod fy nhraed i’w hatal rhag llosgi ar y tywod.

 

Disgleiriodd yr haul yn gryf arna i wrth i mi gerdded drwy’r safana. Roeddwn i’n gwybod ei bod hi tua 42°c ac roedd Baako yn cytuno oherwydd roedd ei dafod yn hongian allan o’i geg agored wrth iddo loncian o gwmpas.

 

Yn sydyn cododd glustiau Baako a throdd i edrych i’r dde, cwrcydais i lawr yn y gwair tal gan ollwng gafael ar dennyn Vumbi. Dechreuodd Baako gerdded tuag at beth bynnag welodd cyn plygu lawr i’w arogli, clywais hisian distaw a gwelais Baako yn neidio yn ôl mewn syndod. Pan gropiais at Baako gwelais neidr mor ddu â bol buwch yn syllu arna i, yn ofalus gafaelais yng ngwâr Baako a chodais yn araf cyn cerdded yn ôl a baglu dros garreg.

 

Yn hwyrach yn y dydd gwelais gyr o sebras yn rhedeg o’r De, ond nid oedd y sebras yma yn ddu a gwyn yn unig. Roedd o’r pen glin i lawr yn frown tywyll fel mwd: cymysgedd o dywod a dŵr. Roedd rhaid fod y sebras wedi dod o ryw fath o werddon, oasis llawn dŵr! Dechreuais i’r de yn syth, er fod Baako wedi drysu am y newid  cyfeiriad dilynodd yn ufudd. Erbyn i ni gyrraedd yr anialwch penderfynais dringo ar gefn Vumbi a’i farchogaeth am ychydig.

 

Yn gyflymach na cheetah gwelais gwmwl o lwch yn codi fel tsunami, ond nid tsunami oedd o. Storm dywod oedd o. Chwibanais am Baako i aros yn agos ac estynnais fy mwgwd, yn ceisio peidio cynhyrfu neidiais oddi ar gefn Vumbi a throi fy nghefn at y storm. Mewn ychydig o eiliadau roedd y storm wedi cyrraedd a doeddwn i methu gweld o gwbl. Digwyddodd popeth mor sydyn, collais olwg ar Vumbi a Baako a chefais fy ngorfodi i’r llawr. Tarais fy mhen ar y llawr yn galed a throdd y byd yn ddu, ond ar yr eiliad olaf gwelais ffigwr mewn clogyn yn dod ata i.

 

Awst 30

Deffrais ond methais agor fy llygaid, roedden nhw wedi ei selio ar gau gyda thywod. Clywais anifeiliad yn yfed dŵr o bwll ac adar yn hedfan yn swnllyd o goed, wedyn clywais lais yn dweud:

“Ew, doeddet ti heb baratoi llawer naddo Abu,” roeddwn i’n adnabod y llais ond sut allwn i fod yn ei adnabod? Roedd Ra wedi diflannu ddwy flynedd yn ôl.

Rhyddiaith i ddysgwyr, Hannah Cook, y wobr gyntaf!

Fy Uchelgais

Hannah ydw i a dw i’n un deg pedwar oed ac yn byw mewn pentref bach o’r enw Rhiwlas,  ger Bethesda. Rydw i’n ofnadwy o lwcus i fyw mewn lle mor brydferth ac mae hyn yn fy nheulu gyda fy niddordeb, ffotograffiaeth. Mae tynnu lluniau o fynyddoedd gwych a bendigedig Eryri yn rhoi pleser mawr i mi, ac mae’r lluniau yn anhygoel.

Cefais ddiddordeb mewn ffotograffiaeth gan fy Nhaid, oherwydd roeddwn i’n arfer mynd efo fo i lefydd fel parciau a digwyddiadau fel priodasau i dynnu lluniau. Cefais fenthyg ei gamera fo pan oeddwn i’n ddeg oed i fi cael tynnu lluniau ac wedyn ar ôl ychydig prynodd o camera i fi fy hun fel anrheg Nadolig yn 2013. Cefais lens newydd ar fy mhen-blwydd yn un deg pedwar oed. Mae fy nhaid wedi  ysbrydoli fy niddordeb.

Yn y dyfodol hoffwn i fynd i brifysgol i astudio ffotograffiaeth  ond cyn hynny hoffwn lwyddo yn fy arholiadau TGAU a mynd i’r chweched.

Dw i’n blwyddyn ddeg  yn Ysgol Dyffryn Ogwen ac yn ddisgybl yn yr ysgol ers dwy flynedd erbyn hyn. Buaswn i’n hoffi mynd i’r chweched yma hefyd, ar ôl gorffen chweched hoffwn i fynd i brifysgol yng Nghaerdydd neu Lerpwl. Dw i isho symud i rhywle eitha agos i adra ond ddim rhy bell oherwydd rydw i eisiau dod adra am penwythnos ac yn ystod y gwyliau, fodd bynnag baswn i ddim isho mynd i rhywle fel Bangor oherwydd dw i ’n meddwl bod hynna yn rhy agos i adra! Dw i isho dechrau rhan newydd yn fy myd pan dw i’n symud i brifysgol,  felly dwi ’n meddwl bydd rhywle fel Caerdydd neu Lerpwl yn berffaith. Yn y brifysgol hoffwn i astudio ffotograffiaeth ac un neu ddau o bethau eraill.

Dwi’n un deg pedwar wan a dw i dal ddim hefo syniad be hoffwn i wneud fel swydd yn y dyfodol. Ar y llaw arall dw i yn gwybod mi fydda i isho gwneud rhywbeth gyda ffotograffiaeth. Ond mae pobol yn parhau i ddweud wrtha i  mae’n anodd iawn i wneud bywyd allan o dynnu a gwerthu lluniau, ond dw i bron a marw isho gwneud. Dw i’n newid fy meddwl fi trwy’r adeg am be dwi isho bod a lle dwi isho gweithio, un funud dwi isho bod yn gyfrifydd a’r funud nesa dwi isho bod yn addurnwr  tai. Sgen i ddim syniad a dweud y gwir. Ond mae pawb, (dw i’n golygu pawb!) yn gwybod be mae nhw isho bod, a dwi ddim!

Ond dw i’n gwybod fy mod i yn mwynhau tynnu lluniau ac yn mwynhau clywed pobl yn dweud bod nhw yn lluniau da! Ers symud i fyw yma dwy flynedd yn ôl rydw i wedi gwirioni cael tynnu lluniau llefydd hardd, yn enwedig yn y gaeaf pan mae’r eira wedi bod yn disgyn ac yn dew ar y Carneddau fel côt gaeaf. Ond yn yr haf mae nhw yn fendigedig hefyd, yn enwedig yn y bore pan does neb arall wedi deffro a dim ond yr haul yn gwneud i’r Carneddau edrych fel aur, adeg yna mae’r lluniau yn fy nghamera yn edrych fel trysor. Mae’r lluniau yn gwneud fi’n hapus, dyma pam dw i’n meddwl bod ffotograffydd yn uchelgais i fi.