Eisteddfod Dyffryn Ogwen – Rhyddiaith Blwyddyn 10 ac 11

Dyma stori fuddugol Martha Glain Evans o flwyddyn 11! Llongyfarchiadau mawr iddi!

Babi yw bwli’n y bôn

 Diwrnod arall yn hualau’r system addysg. Un o’r dyddiau ‘na lle does dim cip i’w gael o’r lliw glas yn yr awyr, dim ond llwyd llipa. Roedd hi’n ddiwrnod llipa hefyd. Un o’r dyddiau hynny lle mae’r calendr yn berffaith wag. Diwrnod o’r flwyddyn a fydd yn cael ei anghofio’n ddigon buan ac yn diflannu o’r cof.

Dw i’n cerdded i lawr grisiau ac mae’r arogl yn fy nharo i fel ton. Ond rwyf wedi arfer. Dw i’n cerdded i’r gegin yn droed-noeth ar y teils oer, caled a gwneud paned o dê i mi a’n nhad. Wrth i’r tegell ferwi dw i’n edrych drwy’r ffenest fudr yn drist. Be wnawn nhw heddiw? Pam na allen nhw fy ngadael i fod? Dw i’n deffro drwyddaf wrth i’r tegell chwibanu’n boenus. Dw i’n cerdded i mewn i’r ystafell fyw lle mae fy nhad yn gorwedd ar ei fol ar y soffa byg. Mae’r teledu’n grwgnach yng nghornel yr ystafell ac mae golau melyn y bwlb yn taflu gwawr oeraidd ar yr ystafell. Dw i’n cerdded ato, gan geisio osgoi’r ras rwystrau o ganiau cwrw a bocsys pitsa sy’n gorwedd yn anniben ar y carped oedd wedi gweld dyddiau gwell. Yna, wrth ddal fy nhrwyn dw i’n gafael yn fy mag ysgol ac yn cerdded allan o’r tŷ, gan gloi’r drws ar fy ôl.

Dw i’n lapio fy nghôt denau o’m hamgylch yn dynn i’m hamddiffyn rhag y gwynt main. Wrth i mi gerdded yn nes at yr ysgol, dw i’n poeni yn arw am yr atraith a fydd yn fy wynebu i eto heddiw.  Ca-ti, Ca-ti, Ca-ti. Gyda phob cam, dw i’n clywed ei henw yn atsain yn fy mhen. Mae’n stumog i’n glymau wrth i mi weld yr ysgol yn dod yn nes ac yn nes. Mae degau o blant ysgol yn sefyll o flaen yr adeilad brics coch, yn chwerthin gyda’u ffrindiau, yn chwarae pêl-droed ac yn chwarae gyda’u ffonau symudol. Tydi Cati ddim i’w gweld yn unlle. Wrth i mi gerdded heibio, mae pawb yn troi i edrych arna i dan chwerthin. Dw i’n teimlo dagrau yn priclo yn fy llygaid a dwi’n brasgamu i lawr yr iard. Gweiddai un bachgen;

“Hei! Sbiwch ar Mina-Ceiniog-A-Dima!”

Mae’r ysgol gyfan yn dechrau chwerthin. Dw i’n teimlo fy mochau’n cochi ac mae’r dagrau yn powlio i lawr fy wyneb. Ar ôl be deimlodd fel milltir o gerdded, rwy’n cyrraedd drws yr ysgol ac yn ffoi rhag y chwerthin haerllug tu allan. Pan dw i’n gwneud yn siŵr fy mod i o’r golwg dwi ’n cyflymu ac yn rhedeg i’r toiledau merched. Dw i’n eistedd ar sêt y toiled mewn ciwbicyl gwag, unig yn saff yn fy nghell, nes fod y gloch yn canu.

Dw i’n cerdded yn araf i mewn i’r ystafell Gymraeg ac yn eistedd yn ddi-ffwdan ym mlaen y dosbarth. Mae pawb yn gwybod mai ond y bobl cŵl sydd yn eistedd yn y cefn. A beth bynnag, rwyf fel arfer yn cael ychydig o lonydd pan rwyf yn eistedd ar fy mhen fy hun. Pan mae’n rhaid i mi weithio gydag eraill mae’r broblem. Mae’r ystafell wedi cael ei beintio yn lliwiau traddodiadol Cymru. Waliau gwyrdd fel leim, ffenestri glân gwyn a drws coch fel calon yr ystafell. Mae’r wers yn llusgo’n boenus ar hyd yr awr, dwi’n gaeth mewn pwll di-waelod diflas, ac rwyf bron â chysgu pan mae Mr Morris yn gweiddi;

“Mina Roberts!”

Dw i’n codi fy mhen mor gyflym dw i ddim yn gwybod lle ydw i. Ond yna rwy’n ffocysu ar wyneb blewog Mr Morris ac yn dod yn ôl i’m synhwyrau.

“Y, ia syr?”

“Pwy ysgrifennodd ‘Y Llwynog’ Mina?”

O na. Dw i mewn dyfroedd dyfnion rŵan. Dw i’n edrych o gwmpas yr ystafell yn anobeithiol ac rwyf yn clywed llawer o biffian chwerthin tu ôl i mi. Dw i’n edrych ar y bwrdd gwyn tu ôl i Mr Morris ac yn gwenu’n ddiolchgar.

“R.Williams Parry, syr?”

“O,” meddai’r athro yn ddryslyd. “Ie wir, da iawn,” meddai’n sych wedyn. Ha! Does dim byd gwell na phrofi athro yn anghywir nagoes?!

O bob rhan o’r dydd, amser egwyl rwyf yn ei gasau fwyaf. Does gen i’m arian i fynd i brynu darn o dost euraidd gyda ychydig o jam melys ar ei ben, felly does unman i fi fynd. Fel arfer beth rwyf yn gwneud yw aros yn fy nghell glud yn y toiledau nes bod y gloch yn canu. Rwyf ar fy ffordd yno rŵan, yn brysio at ddiogelwch ond dw i’n stopio yng nghanol cam pan rwyf yn clywed lleisiau o’r tu fewn. Mae’r gwaed sy’n llifo yn fy ngwythiennau yn troi’n rhew.

Cati.

Cati yw’r ferch deneuaf, brydferthaf, dalaf ond mwyaf atgas yn yr ysgol gyfan. Mae pawb yn ei charu, hi yw’r Frenhines a’r ysgol yw ei theyrnas. Mae’i ffrindiau yn ei haddoli. Mae hi’n andros o gyfoethog oherwydd bod ei thad yn aelod o’r Senedd. Cati yw’r rheswm dw i’n deffro’n ganol nos yn crio.

Beth ydw i am wneud rwan? Does unlle i guddio, dw i’n sownd rhwng bariau ei bwlio. Does dim ffoi. Cyn i mi allu gwneud unrhyw fath o benderfyniad mae’r drws yn agor a dyna hi, yn sefyll o’m blaen. Dwi’n edrych i fyny yn geg-agored. Mae ei gwefusau coch yn lledu’n yn wên berffaith, ei dannedd fel perlau ar sidan coch. Dwi’n ochr-gamu tu ôl iddi ac yn rhedeg i mewn i giwbicyl gwag tu ôl iddi. Mae fy anadl yn frysiog a cheisaf dawelu, ond mae’n rhy hwyr. Dw i wedi fy nal.

Dw i’n clywed lleisiau a sŵn traed yn cerdded i mewn i doiledau’r merched. Dw i’n dal fy ngwynt.

“Mina-aa? Wyt ti yma-aa?” Cana Cati’n sbeitlyd. Chwardda ei ffrindiau i gyd mewn lleisiau uchel, main. Mae pawb yn dawel am ychydig o eiliadau.

“Fydd rhaid i ti ddod allan cyn bo hir sdi, mae’r gloch yn canu mewn dau funud!”

Ydi o wir?? Dw i’n edrych ar fy oriawr yn frysiog. Gwir, bob gair.

“Be am i ni aros i ti, nes dy fod ti’n barod i ddod allan ie?”

Be ydw i am wneud rŵan?! Dw i methu aros yma am byth! Mae fy nghell glud wedi troi’n garchar erchyll! Bydd rhaid i mi drio eu hosgoi rhywust neu’i gilydd. O, Mina! Beth wyt ti wedi gwneud?! Tyrd wan, bydd rhaid bod yn ddewr. Tydyn nhw ddim yn disgwyl i mi ddod allan o ddewis, felly mae gen i fantais. Iawn, dyma ni’n mynd.

Un, dau, tri!

Dw i’n dad-gloi’r clo ac yn rhedeg nerth fy nhraed tuag at y drws. Ond mae’i ffrindiau hi’n rhy gyflym! Mae dwy ohonynt yn gafael ynof i  gerfydd fy siwmper ac yn fy nhaflu ar y llawr. Dw i’n trio codi i fyny ar fy mhenelinau ond mae na ferch arall yn fy nghicio i yn fy asennau, yn gwneud i mi sgrechian mewn poen. Dw i methu gweld dim byd, mae’r dagrau yn fy nallu i. Ond dwi’n teimlo rhywun yn tynnu fy mag o fy nghefn yn frwnt a dw i’n clywed sŵn rhywun yn gwagio fy eiddo mewn twmpath ar y llawr. Ond does gen i ddim nerth. Mae’r gic yn fy asennau wedi sugno’r holl egni ohona i. Dw i’n gorwedd ar y llawr budur yn dwmpath anobeithiol.  Yna, dw i’n clywed cloch yr ysgol yn canu, ond mae o ddeg gwaith cryfach nag arfer ac mae’r sŵn yn bowndio o bob cornel o fy ymenydd. Mae’r genod i gyd yn rhedeg o’r toiledau wrth biffian chwerthin ac rwyf ar fy mhen fy hun. Eto. Yn araf, dw i’n codi ar fy nhraed, casglu fy eiddo a cherdded trwy’r drws i fy ngwers nesaf yn ddi-ffwdan.

Fy ngwers nesaf yw mathemateg. Dw i’n cerdded i mewn yn gloff ac yn eistedd yn fy lle arferol ym mlaen y dosbarth. Mae’r ystafell fathemateg yn blaen iawn o’i chymharu gyda’r dosbarth Cymraeg, waliau plaen gwyn, carped glas ac ambell i boster ar y wal, dyna i gyd. Ond mae hyd yn oed y lleiaf o liw yn achosi i’m pen i droi. Mae’r wers yn cychwyn a dw i’n dechrau ysgrifennu syms i lawr ar ddarn o bapur. Ond dim ond tri chwestiwn rwyf yn gallu ddioddef cyn i mi ddechrau teimlo’n sâl eto. Felly, dwi’n gosod fy mhen ar y bwrdd oer, llyfn ac yn cau fy llygaid ac yn dechrau teimlo’n gysglyd…

“MINA!”

Be! Wow! Be sy’n digwydd?? Dw i’n edrych i fyny i weld wyneb boch-goch fy athrawes o’m blaen,

“Mina, be sy?”

“Mae’n rhy thic i ddalld y cwestiynau Miss!” gweidda lais cyfarwydd o gefn y dosbarth.

Dyna ni. Dw i wedi cael digon. Mae dagrau yn ffurfio yn fy llygaid. Ond nid dagrau trist, ond dagrau o gasineb pur tuag at bawb yn yr ysgol. Dwi’n teimlo fy wyneb yn cochi ac mae’n nwylo i’n cyrlio’n ddyrnau. Dw i’n sefyll ac yn troi o gwmpas i wynebu’r dosbarth. Mae pawb yn syllu arna i mewn sioc. Dw i’n anadlu’n ddwfn ac yn dweud;

“Cati? Be sy? Be ydw i erioed ‘di neud i chdi? Dim byd. Yn union. Felly pam bod rhaid i chdi wneud i blant fel fi ddioddef am ddim rheswm? Ydi o’n dy wneud di’n fwy poblogaidd? Ydi brifo plant di-niwed yn gwneud i chdi deimlo’n fawr? Os ydi hyn yn wir, Cati, gen ti ma’r broblem, nid fi. Y gwir ydi, Cati, babi yw bwli yn y bôn!”

Dw i’n edrych i fyw ei llyagid gwyrdd-las, ac mae ofn ynddynt.

“Ti’n gwybod, Cati, dim chdi ydi’r unig un. Mae pawb yn yr ysgol gyfan ar fai!!” meddaf gan edrych o gwmpas y dosbarth.

“Dw i heb gael un dydd o heddwch yn y carchar ‘ma, ers blwyddyn saith! Dw i’n deffro yn ganol nos yn crio oherwydd pobl fel chi. Ydach chi’n sylweddoli sut mae geiriau yn gallu brifo rhywun gymaint? Ond dw  i ddim yn dweud hyn er mwyn gwneud i chi deimlo’n euog, Dwi’n dweud hyn er mwyn i chi wybod fy mod i wedi cael digon. O’r ysgol ‘ma, o’r plant ‘ma ac or bywyd ‘ma!”

Mae dagrau poeth yn llifo i lawr fy wyneb rŵan, ac mae fy nwrn wedi ei gau mor dynn, dwi methu teimlo blaenau fy mysedd.

“Do! Dw i wedi cael digon! Dw i ddim yn mynd i gymryd eich artaith chi ddim mwy!”

Dw i’n gafael yn fy mag yn frysiog ac yn rhedeg allan o’r ystafell. Dw i’n disgwyl am y chwerthin, ond does dim byd. Roedd yr ysgol yn dawel fel y bedd. Dw i’n cyrraedd y toiledau unwaith eto. Dw i’n cloi fy hun yn fy nghiwbicyl ac yn wylo am oriau. Mae fy mhen yn troi fel top, a dw i’n teimlo’n ben-ysgafn. Er mawr syndod i mi, does neb yn dod ar fy ôl.

O’r diwedd, mae’r gloch fondigrybwyll yn canu ei halaw gas, a dw i’n cael fy ngorfodi i gerdded allan o’r toiled. Dw i’n paratoi fy hun am y gwaethaf. Beth oeddwn i’n feddwl? Fe wnes i ffŵl llwyr o’n hun, wna i byth glywed y diwedd ohoni. Unwaith eto dw i’n lapio fy nghôt amdana i ac yn trio dianc o’r ysgol fel ffoadur mor gyflym â phosib. Ond, does dim chwerthin. Mae pawb yn cerdded heibio fel pe bawn i’n ddisgybl cyffredin. Mae ambell berson hyd yn oed yn gwenu i ddweud helo. Be sy’n digwydd? Ydy hyn yn rhyw fath o jôc? Mae merch dal gyda gwallt hir golau yn cerdded ata i, dwi’n meddwl fy mod wedi gweld ei hwyneb yn yr ystafell fathetmateg. O, na.

“Haia, Mina? Ti’n iawn?”

Dw i’n edrych arni mewn syndod. Sut mae hi’n gwybod fy enw?

“Oni eisiau dweud dy fod ti wedi bod yn ddewr iawn, ac mae pawb yn yr ysgol yn meddwl hynna hefyd.”

“Ymm..diolch.”

“Mae gen bawb barch atat ti rwan, Mina. Fe wnest ti’r peth iawn,” meddai, a gwasgodd fy ysgwydd yn garedig a cherdded i ffwrdd.

Dw i wedi wneud o. Dwi’n rhydd. Mae pwysau’r byd wedi codi oddi ar fy ysgwyddau, ac am y tro cyntaf am fy mywyd, does arna i ddim ofn. Dwi’n teimlo gwên sleifio ar fy wyneb yn swil. Dw i’n cerdded o’r ysgol wrth fy modd. Mae’r awyr yn berffaith las, fel melfed hyfryd. Mae’r gwres hafaidd yn sgleinio’n gynnes ar fy ysgwyddau ac mae’n mhen i’n glir. Dw i’n cymryd y ffordd hir adref, tydw i ddim eisiau i’r teimlad yma ddod i ben. Dw i bron yn sgipio i lawr y palmant pan dwi’n cyrraedd fy nhŷ.

Dw i’n cerdded i mewn i’r ystafell fyw, ac mae fy nhad dal i gysgu ar y soffa brwnt. Mae’r baned yn eistedd ar y bwrdd yn oer. Y teledu yn hymian ei diwn anghysurus yng nghornel yr ystafell. Na, plis…

“Dad…?”

Dw i’n rhedeg ato, wrth daflu fy mag ar y llawr yn frysiog.

“Dad!”

Dw i’n teimlo’r curiad ar ei wddf.

“DAD!”

Advertisements