‘Siom’ – Stori Fuddugol Ella Baker. Eisteddfod Dyffryn Ogwen, 2016. Rhyddiaith i flynyddoedd 10 ac 11.

 Siom – Dyddiadur ffoadur dienw

 Môr y Canoldir: 32 awr

Eisteddaf yn glyd rhwng fy nau riant, gyferbyn a’m brawd hŷn. Edrycha yn ifanc gyda’i wallt tywyll wedi ei dorri’n fyr, crychau chwerthin ar ei fochau ac edrychiad diniwed yn ei lygaid brown disglair, truenus. Rydym ar gwch bach pren yng nghanol Môr y Canoldir ar ein ffordd i Groeg, mae’r gwch yn llawn ond does dim ots gen i; teimlaf yn ddiogel gyda fy rhieni wrth fy ymyl.

Gadawsom y porth yn Izmir, Twrci 2 awr yn ôl. Gadaawsom Syria 32 awr yn ôl. Gadawsom bopeth, 32 awr yn ôl. Ein tŷ, ein heiddo, ein teulu, ein ffrindiau, ond nid ein ffydd, ein gobaith nac ein hatgofion. Dyna beth sy’n bwysig medd dad; ein bod ni’n cofio, am bawb a phobeth. Oherwydd nid oes unrhyw beth wedi ei golli, tan iddo gael ei anghofio. Ni fyddaf fyth yn anghofio.

Fedrai wastad ymddiried yn fy nhad i fod yn ddoeth, ond dwi’m yn synnu; mae o’n ddyn clyfar, sydd wedi bod yn dysgu ffiseg a maths mewn prifysgol am flynyddoedd. Ef yw’r mwyaf peniog yn ein teulu ni, ond nid fod mam ddim yn glyfar chwaith, mi roedd hi’n gyfrifydd hyd at bum niwrnod yn ôl. Gallaf i a’m brawd ddiolch am hynny, pe bai gan mam a dad swyddi gwael, ni fuaswn ni’n gallu fforddio ffoi, buasen ni’n gaeth i ryfeloedd Syria am weddill ein bywydau.

Athens, Groeg: 40 awr

Cyrhaeddom Groeg yn ddiogel ac yn sych, diolch byth, oherwydd dyma un o’r pedwar par o ddillad sydd gennyf, a felly mae’n syniad doeth i gadw’n holl ddillad yn lân. Ar y funud rydym wedi cael ein golchi i mewn i dorf anferth o bobl, gan don o’r ffoaduriaid eraill, sydd hefyd yn chwilio am y lori neu’r bws cywir. Mae gyrrwyr ym mhob man, yn chwifio’u harwyddion ac yn gweiddi, wrth iddynt fugeilio afonydd o bobl at eu loris a’u tryciau.

Am eiliad, collaf olwg ar fy rhieni, a chydiaf ar lawes fy mrawd wrth iddo ddechrau diflannu gyda llif y dyrfa. Wrth iddo droi ataf gwelaf ofn yn ei lygaid, ond yn syth pan mae o’n fy wynebu, mae o’n edrych yn hamddenol ac yn hyderus. Teimlaf yn ddiogel eto. Ac o fewn ychydig funudau, mae o  wedi fy arwain trwy’r môr o bobl, sy’n gwrthio ac yn gweiddi, i’r lori sydd wedi ei labelu ‘I Macedonia’  ac wedi estyn ei ffôn symudol i decstio mam.

Gwersyll ym Macedonia: 73 awr

Ers croesi’r ffin rydym wedi trafeilio am oriau i gyrraedd y gwersyll cyntaf, mae’r daith wedi gwneud i’r haul fynd i gysgu hyd yn oed. O’r diwedd gallwn ni wneud defnydd o’r blancedi rydym wedi bod yn eu cario gyda ni’r holl ffordd yma. Mae fy nhraed yn lladd ac mae fy mol yn wag, buaswn i’n gwneud unrhyw beth am blat mawr o fwyd, ond yn anfoudus mae’n rhaid i ni ddogni ein bwyd; does gennyn ni ddim syniad am ba mor hir fyddwn ni’n gorfod aros cyn cyrraedd y DU. Dywed mam y byddwn ni’n gorfod codi am bedwar yn y bore er mwyn i ni allu sicrhau lle ar y bws fory, gobeithio gallaf gysgu gyda’r holl sŵn crio.

Ffin Serbia: 91 awr

Heidiasom o’r gwersyll olaf ym Macedonia tua awr yn ôl, a phenderfynom i gario ymlaen a cheisio croesi’r ffin heddiw, gwyliaf ein trydydd bws yn gadael wrth i ni droi at y ffin. Ond wrth agosau, gwelaf wersyll bach o ffoaduriaid, a sudda fy nghalon. Clywaf weiddi a chrio, ac wrth i ni wthio i flaen yr haid gwelaf fod llinell o blismyn yn atal pobl rhag mynd heibio. Am heddiw fydd rhaid gosod y babell yma, a chysgu; heddiw fydd y diwrnod anodd cyntaf. Mae’r siom wedi cyrraedd.

Lleoliad anhysbys, Serbia: 286 awr

Ar ôl treulio tri diwrnod ar y ffin, rydym wedi cerdded am filltiroedd dros diroedd Serbia am bron i dri diwrnod. Rydw i’n teimlo fel fyddwn i’n cwympo unrhyw funud, ond rwyf yn bwydo oddi ar gryfder y bobl o’n cwmoas; fy nheulu, a’r holl ffoaduriaid eraill, rhai mor ifanc â phedwar neu bump. Ni allaf ddychmygu pa mor anodd maen nhw’n ei chael hi; tair blynedd yn ôl buaswn i wedi blino ar ôl y diwrnod cyntaf o gerdded, heb sôn am dri diwrnod! Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi gario ymlaen i fod yn gryf ac yn ddewr os ydw i eisiau cyrraedd y DU, mae ‘na filltiroedd i fynd. Ond gyda help fy nheulu, mi fydda i’n iawn, gallaf wastad ymddiried yn fy nheulu i fod yma.

Ffin Hwngari: 424 awr

Cyrrhaeddom ffin Hwngari i ddarganfod fod siom wedi cyrraedd cyn i ni gyrraedd hyd yn oed, yn aros amdanom yn ffens 13 troedfedd o uchdersy’n cario ymlaen am filltiroedd. Nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn croesi’r ffin yma, ac am y tro cyntaf, mae o wedi fy nharo; mae pobl yn ein casau. Ein casau am ddim rheswm. DIM RHESWM!

Slofenia: 673 awr

Ers i ni orfod newid ein cwrs yn Hwngaria, rydym wedi teithio trwy Groatia a hanner o Slovenia. Doedd dim ffordd o gael ein harian yn ôl o’r cwmniau bysiau roeddwn wedi bwcio o flaen llaw yn Hwngari, felly rydym wedi gorfod hanneru ein prydau o fwyd er mwyn arbed arian. Hefyd rydym yn gorfod cerdded gweddill y ffordd i ffin Yr Eidal, ac mae’n debyg bydd rhaid cerdded trwy’r Eidal hefyd, rwyf yn dechrau poeni y byddwn ni’n cyrraedd y DU heb unrhyw bres yn weddill.

Rhywle yng nghanol Yr Eidal: 854 awr

Mae fy nghefn wedi llosgi, mae fy nhraed yn gwaedu, mae fy mol yn wag, mae fy nillad yn fudur a dydw i heb gysgu am 18 awr. Ond i edrych ar yr ochr dda…wel…mae fy mag yn ysgafnach, oherwydd dim ond dau bâr o ddillad ac un flanced yn unig sydd gen i’n weddill. Felly i ddod i ganlyniad; does dim ochr dda… Ond ges i gerrydd gan dad am ddweud hynny, dywedodd ein bod ni’n hynod o lwcus i fod yn ffoi o Syria, a phe baen ni ddim yn ffoi, efallai y bydden ni wedi cael ein hanafu…neu’n waeth erbyn hyn.

Y Jyngl, Callais, Ffrainc: 2000 awr

Cyrhaeddom yma fis yn ôl, dyma’r gwersyll mwyaf rydym wedi aros ynddo. Roeddwn i wedi clywed llawer am y gwersyll yma, ond mae o’n llawer gwaeth nag oeddwn i’n ddisgwyl. Mae yma sbwriel ym mhob man, a phobl ym mhob man; pobl drist, pobl sâl, pobl ddiniwed sydd yn haeddu mwy. Mae siom wedi heintio’r gwersyll yma, ac wedi’i gnoi…

 4314 awr

Rydym wedi bod yn aros am gyfle i fynd i’r DU yma yng Nghallais am tua thri mis. Rydym wedi aros yn amyneddgar am dri mis! Mae arian yn diflannu fel dŵr ar ddiwrnod poeth, felly mae’n rhaid i ni aros am gyfle i groesi’r Sianel yn gyfreithlon. TRI MIS! A dywedodd y gwirfoddolwyr fod cyfle i ni fynd o’r diwedd. Ond mae yna un broblem; dim ond plant, henoed a phobl anabl sydd yn cael y cyfle i fynd ar y funud. AR ÔL TRI MIS! Ond wrth gwrs mae fy rhieni yn fodlon gwneud unrhyw beth i fi a fy mrawd, ond ni allaf i eu gadael…

Y Sianel, Cefnfor yr Iwerydd: 4337 awr

Eisteddaf yn glyd rhwng dau ddiethryn, gyferbyn a’m brawd hŷn. Edrycha yn hen gyda’i wallt tywyll yn flêr at ei ysgwyddau, crychau ar ei dalcen ac edrychiad rhywun sydd wedi dioddef yn ei lygaid brown. Rydym ar gwch bach pren yng nghanol Y Sianel ar ein ffordd i Loegr, mae’r cwch yn llawn ond does dim ots gen i; rwyf wedi arfer teimlo’n anniogel.

Gadawsom ein cartref yn Syria chwe mis yn ôl. Gadawsom bron i bopeth, chwe mis yn ôl. Ein tŷ, ein heiddo, ein teulu, ein ffrindiau ond nid ein ffydd, ein gobaith nac ein hatgofion.

Gadawsom Callais, Ffrainc 2 awr yn ôl. Gadawsom ein rhieni, ein ffydd ac ein gobaith, 2 awr yn ôl. Ond nid ein hatgofion, byth ein hatgofion; dyna beth sy’n bwysig. Oherwydd nid oes unrhyw beth wedi ei golli, tan iddo gael ei anghofio. A na fydda i fyth, byth yn anghofio…

…anghofio’r siom

Advertisements