Adolygiad Llyfr Cipio’r Llyw
Awdur: Awen Schiavone
Argraffwyr: Y Lolfa
Cynllun Clawr: Sion Ilar
Rhif ISBN: 978-1-78461-435-5
“Chwip o nofel am oes aur y môr-ladron Cymreig” yw’r broliant ar gyfer y nofel hon. Ffuglen hanesyddol ydyw o’r cyfnod 1705 i 1719. Mae’n sôn am helyntion y Capten Hywel Dafydd o Aberdaugleddau, sy’n hwylio’r moroedd yn ysbeilio llongau a dwyn trysorau. Mae’r stori’n cychwyn pan mae bachgen 15 oed, o’r enw Hywel Dafydd, yn penderfynu gadael ei deulu a’i gariad, Elen, a mynd yn forwr. Ychydig a wyddai na fuasai’n dychwelyd i Gymru fyth eto, ac y byddai’n troi’n fôr leidr.
Ar ôl sawl mordaith cipwyd ei long gan griw o fôr ladron a gorfodwyd ef i ymuno â nhw. Ymhen ychydig mae Hywel yn dechrau mwynhau bywyd fel môr leidr a phan mae’n cael ei ethol fel capten mae’n arwain ei griw at lwyddiant ysgubol. Rhaid darllen y nofel i’r diwedd i gael gwybod am ei lwyddiannau a gweddill ei fywyd. Dilynwyd ef gan gapten, oedd hyd yn oed yn well nag ef ei hun, sef John Roberts o Gasnewydd Bach, neu Barti Ddu.
Mae hon yn nofel anturus a chyffrous ble mae Hywel yn dyfeisio nifer o gynllwynion peryglus a chyffrous, a’u rhoi ar waith, a phan mae hyn yn digwydd dyma yw fy hoff ran o’r llyfr.
Cafodd y nofel ei hysbrydoli gan waith ymchwil yr awdur o waith T. Llew Jones, yn enwedig ei nofel Barti Ddu o Gasnewy’ Bach.
Mwynheais ddarllen y nofel hon yn fawr gan ei bod o safon uchel ac yn hynod ddarllenadwy. Byddwn yn ei hargymell i unrhyw un sy’n dymuno ymgolli ym mywydau anturus y môr-ladron.
Osian Wyn Rowlands, 7 Idwal.