Martha yw meistres y stori!

Martha

Dyma’r stori a gipiodd y drydedd wobr i Martha Jones o flwyddyn 7 yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Mwynhewch!

Anghofio

“Wel Mrs Lewis,” holodd Mr Tomos, perchennog y siop gŵn.”Pa gi ydych chi’n ddymuno ei brynu?”

“Mmmmm, mae’r spanial bach yma yn eithaf del, ond braidd yn fywiog i mi,” atebodd Mrs Esyllt Lewis,  yr hen wraig gyfeillgar, cyn edrych ar y ci nesaf.

“Be’ am Loti y Rottwiler sydd, chwarae teg, ddigon clen yn y bôn,” cynigiodd Mr Tomos gan weddïo y byddai’r ci’n rhoi’r gorau i gyfarth nerth ei phen.

Edrychodd Mrs Lewis yn nerfus…

“Ym, dim diolch. Rwy’n chwilio am gi ffyddlon, dim rhy fywiog, dim rhy…fawr, ci all fy helpu wrth i mi heneiddio, ci sydd am gadw cwmni, unrhyw awgrymiadau?”

“Ci ffyddlon? Arhoswch funud! Rydym newydd dderbyn Golden Retrever newydd-anedig: Cymro, braidd yn fach os ‘da chi’n gofyn i fi ynde…”

Codais fy nghlustiau wrth glywed hyn, ai dyma fy nghyfle? Agorais fy llygaid led y pen gan adael i fy nhafod llachar hedfan o’m ceg, gan lyfu fy ngên yn foddhaus. Roeddwn bron â thorri fy mol eisiau i Mrs Lewis hyfryd fy mhrynu, roeddwn wir eisiau perchennog go iawn!!!

“Oh! Mae o’n berffaith,” ebychodd Mrs Lewis yn gyffrous wrth i Mr Tomos agor y gawell.

“Fe bryna i o’n syth!”

Hwn oedd y diwrnod mawr! Dyna pryd ddechreuodd y daith…

*************************************************************************************

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a’r hen Mrs Lewis druan yn wyth deg tri, roedd yn amser te prynhawn – tri o’r gloch ar ei ben. Ond ni symudai fy mherchennog fodfedd. Roedd hyn yn anarferol meddyliais, bob prynhawn fe estynnai Mrs Lewis am ‘Rich Tea’ a phaned o de, wrth i minnau lowcio un o fy misgedi cŵn anfarwol. Ond heddiw, roedd rhaid i mi  fynd i nôl y wledd a phan gyrhaeddais y gegin doedd dim bisged ar ôl, felly estynnais baced gwag i ddangos i Mrs Lewis. Roedd hi’n eistedd yn ei chadair gyfforddus a rhedais ati gan gyfarth i dynnu ei sylw.

“Oh be sy’n dy boeni Cymro bach?” gofynnodd yn flinedig.

Neidiais ar ei chadair yn ofalus gan ddangos y paced. Ddeng mlynedd yn ôl, a minnau yn gi bach, ni allwn hyd yn oed gyrraedd ei gliniau. Roeddem ni’n dau yn sicr wedi heneiddio!

“O diar! Nes i anghofio am amser te. Tyrd i ni bicio lawr i’r siop.” cynigiodd gan godi o’i sedd yn boenus yr olwg.

Rhedais at ddrws y tŷ ac wrth ddisgwyl iddi nôl ei chôt gwelais ei bod wedi anghofio tynnu ei slipers. Dyna ryfedd meddyliais gan ddewis cadw hyn i mi fy hun. Wrth i ni gychwyn yn y Mini hen ffasiwn teimlais yn boeth ar y naw, ond doedd y gwres ddim yn fy mhoeni. O’r diwedd fe gyrhaeddom Tesco ac i ffwrdd â Mrs Lewis gan fy ngadael yn y Mini.

Ddwy awr yn ddiweddarach, ar ôl y gorweddian di-ddiwedd yn y car chwilboeth, roeddwn wedi gorboethi’n ofnadwy. Gobeithiwn y dychwelai Mrs Lewis yn reit handi. Fe lusgodd yr eiliadau, a phob munud yn teimlo fel blwyddyn. Plîs Mrs Lewis, plîs dewch yn ôl yn syth… erfynais arni yn fy mhen. Fel arfer byddai’n trïo’i gorau i frysio, ond beth oedd yn wahanol heddiw tybed? Cyfarthais yn uchel gan wynebu’r siop i drio tynnu ei sylw o grombil Tesco ond doedd dim byd yn gweithio. Bellach, roeddwn yn griddfan mewn poen a theimlwn fel petawn wedi cael fy lapio mewn cant o gotiau ffwr trwchus, a hynny ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn! Mwya’ sydyn teimlais yn andros o ben ysgafn ac eisiau chwydu, dyna pryd aeth popeth yn ddu…

Gorweddais yno am amser maith, yn hollol anymwybodol, a theimlais fel petawn yn hedfan yn y nefoedd. Mae’n rhaid fy mod yn edrych yn welw ar y naw, oherwydd y peth nesaf a glywais oedd morthwyl yn hedfan drwy hen wydr y car. Oeddwn i’n mynd o’m co? Roedd arnaf ofn agor fy llygaid ac roedd y boen annioddefol.

“Galwch y milfeddyg yn sydyn!”

“Be’ sy’n bod ar y ci druan?”

“Ydi o dal yn  fyw?”

Clywais leisiau yn y cefndir wrth i mi drio deffro. Gwibiai cant a mil o gwestiynau amrywiol o gwmpas fy mhen. Beth oedd yn digwydd i mi? Lle oedd Mrs Lewis druan? Oeddwn i’n mynd i fod yn iawn? A oedd Mrs Lewis yn mynd i fod iawn? Roeddwn wedi drysu! Dechreuais ddeall beth oedd yn digwydd  wrth glywed sŵn injan yn dod  yn nes! Ceisiais gyfarth wrth gael fy nghario i mewn i’r fan er mwyn darganfod Mrs Lewis, ond nid oedd hi yno! Doedd bosib ei bod wedi fy anghofio…

Deffrais yn ddiweddarach wrth i filfeddyg anghyfarwydd fy nal, dechreuais wichian mewn hiraeth am Mrs Lewis. Dim ond hi allai fy nghysuro.

“Shhhh, ‘wan Cymro bach, mae’n iawn, mae’n iawn…” meddai’r milfeddyg gan geisio fy llonyddu. Ond nid oeddwn yn barod i ildio! Roeddwn ar fin cyfarth mor uchel â phosib pan glywais lais cyfarwydd, llais oedd wastad yno i fy helpu.

“Ond, ond…dydi hynna ddim yn deg! Anghofiais fy nghi yn y car unwaith yn unig, dwi’n wyth deg tri, be ‘da chi’n ddisgwyl!?!” Clywais Mrs Lewis yn ymbil, bron yn ei dagrau.

“Dyna yw ein pwynt Mrs Lewis! Mae’n debyg eich bod yn mynd yn eithaf anghofus gan eich bod yn mynd yn rhy hen. Mae’n bwysig i chi symud i gartref fwy…addas, mae wedi mynd yn ormod o straen i chi. Ceisiwch ddeall ein bod yn gwneud hyn er lles pawb – yn enwedig Cymro!”

Troediodd fy mherchennog tuag ataf yn edrych yn eithriadol o boenus.

“Oh Cymro! ‘Dwi mae’n wir wir wir ddrwg gennyf i! Sut anghofiais fy anifail anwes, yn ogystal â fy ffrind gorau!? Mae’n wir ddrwg gen i,” ymddiheurodd Mrs Lewis wrth i ddeigryn pur, hallt ymlwybro lawr ei grudd fregus. Dechreuais innau grio ym mreichiau’r milfeddyg, roedd yr olygfa o’m perchennog yn crio gymaint yn torri fy nghalon! Beth ddigwyddai nesaf? Beth oedd y ddynes yn mwydro – er lles pawb? Beth ddigwyddai i berthynas Mrs Lewis a fi?

“Cymro, mae rhaid i mi egluro…gan fy mod wedi dy anghofio yn gynharach, maen nhw wedi penderfynu bod rhaid i mi symud i gartref hen bobol a dy adael di ar ôl!!!”

Fedrwn i ddim coelio’r peth! Ar ôl un camgymeriad bychan! Pam? Doedd hynny ddim yn deg! Roeddwn ar fin ei ateb gyda chri pan glywais…

“Ym, mae’n ddrwg gen i darfu, ond rydym wedi dod i benderfyniad ei bod yn syniad da i chi, Mrs Lewis ddod gyda ni er mwyn cyfarfod eich

cyd-‘ffrindiau’…” gorchmynnodd y llais a glywais ynghynt.

Felly dyma’r daith wedi dod i ben. Dim ond ychydig eiliadau oedd ar ôl i mi dreulio gyda fy ffrind gorau. Dyma ddiwedd y daith…

Advertisements