Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 – Rhyddiaith Bl10 ac 11

Cadi Roberts Bl11 oedd yn fuddugol gyda’r blog hwn!  Llongyfarchiadau MAWR iddi!

DAMWAIN

Lara Swyn Preis

@lara_swyn

Blogiwr ifanc Cymraeg

DILYN 481                                         398 O DDILYNWYR

31/01/16

Haiiaaa, sori ydw dw i’n gwybod nad wyf wedi bod yn diweddaru fy nhudalen ers tridiau ond dw i yma rwan!  Wel dw i’n un ar bymtheg fory a gallaf ragfynegi mai’r unig beth dw i am ei glywed yn yr ysgol ydi “sweet 16” a “16 and legal” ( i brynu tocyn loteri wrth gwrs!). Mae o’n rhyfedd sut mae’r Llywodraeth yn gallu penderfynu yr oedran sydd rhaid i ni fod cyn prynu tocyn loteri neu i gael rhyw. 16 sydd rhaid i ni fod i gael bod yn rhieni a bod yn gyfrifol am fywyd rhywun arall ond 17 sydd rhaid i ni fod i yrru car?!  Rhowch eich barn yn y sylwadau, ella nad wyf yn deall y pethau ‘ma nac yn cymryd digon o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond ‘hei  ho’ dyna fy marn i! Nid yw hanner disgyblion un ar bymtheg ein ysgol yn gwybod sut i dalu biliau neu sut i agor tin o fîns hyd yn oed! Ond bai mai byw yn y twll yma sydd wedi gorfodi i mi dyfu mor gyflym . . . be sydd haru mi? Dw i fod i deimlo’n llawn cyffro a’m pen yn llawn syniadau sut i ddathlu, dwi’n teimlo fel sach o datws. Plîs gollyngwch sylwadau beth allaf ei wneud i ddathlu, ydw, unwaith eto dw i’n funud olaf yn gwneud trefniadau . . . Wps! O, a chofiwch mae’n rhaid i’r dathliadau ‘BEIDIO’ cynnwys alcohol oherwydd eu ‘polisi’ nhw yn y lle ‘ma! Fel rydych chi gyd yn ei wybod nid oes llawer o lwc wedi digwydd i mi o’r diwrnod cyntaf ar y ddaear yma! Alcohol a phobl ddifeddwl a meddw mewn parti ddaeth â mi i’r byd yma a difetha fy mywyd i. Nid nad wyf i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yma i mi ond dydw i erioed wedi cyfarfod fy nheulu gwaed.  Do, dw i wedi cael fy maethu ddwsin o weithiau ond nid oes neb wedi fy mabwysiadu a’r broblem yw nad oes gen i neb sydd yn yr un sefyllfa â mi i siarad â nhw. I’r rhai ohonoch sydd dal ar goll wrth wrando arna i, mae’r teimlad o beidio ag adnabod dy deulu gwaed yn teimlo fel bod mewn torf yn llawn dieithriaid yn adnabod neb neu fel cerdded lawr eil yn Tesco am weddill dy fywyd yn chwilio am dy rieni gyda dy ben yn edrych ochr i ochr am oriau yn methu’n lân a chael hyd iddynt. Mae o’n deimlad afiach gwybod mai’r bobl sydd i fod i dy garu di’n fwy na neb arall yn y byd yw’r union bobl sydd eisiau cael gwared ohonot ti ac na fyddant eisiau cysylltu â thi fyth eto. Erbyn hyn dwi wedi derbyn na ddaw fy rhieni yn ôl i fy nghasglu i ac mai fan hyn fydda’ i hyd nes y bydd y rhain yn rhoi cic allan i mi i gael hyd i‘n nghartref fy hun. Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonoch yn edrych ymlaen at y dydd pan fyddwch chi’n symud allan. Ond i mi mae’r diwrnod yna yn fy nychryn. Teimla fel camu allan i dywyllwch ac nid oes golau ar ben y llwybr. Dw i’n cofio pob mlynedd hyd nes yr oeddwn i’n ddeg mlwydd oed yn eistedd ar garreg y drws yn mynnu bod mam neu dad am ddod i fy nghasglu i. Buaswn yn eistedd yno am oriau dim ots beth fyddai’r tywydd a Sera y gweithiwr cymdeithasol yn dweud yr un linell bob blwyddyn “os fyddi di’n isda ‘fana llawar hirach fydd pobl yn dechrau meddwl mai ‘sdatsiw’ wyt ti!” a dwi’n cofio’r union dôn oedd ganddi yn ei llais, rhyw dôn goeglyd yn meddwl y gallai wneud i mi chwerthin. Pam feddyliais bod rhywun am ddod i fy achub? Gwastraff pen blwydd llwyr oedd eistedd ar garreg y drws ‘na ac yna byddwn i’n teimlo mor flin wrth i bawb geisio ‘nghysuro i gan dweud – “fe ddown nhw rhyw dro eto ‘sdi” – y fath gelwydd noeth! Sylweddolais wrth eistedd yno pa mor ddiwerth oeddwn i, mor ddiwerth ag addurn porslen ar sliff ben tân, yno i edrych arno a cherdded heibio iddo, a chael fy hel o un lle i’r llall. Hen ddynes ddiemosiwn oedd hi, dim syndod ei bod wedi gadael. Roedd hi’n un o’r bobl hynny oedd yn busnesu ym mhob peth ac yn siarad tu ôl i gefnau pawb. Dwi’n cofio ei ffugenw gennym ni – ‘Sera Swrth’. Doedd ganddi ddim parch tuag atom.  Fyddai hi byth yn dod i nosweithiau rhieni, na sioeau ‘Dolig, nag unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol yr oeddem yn cymryd rhan ynddynt o ran hynny. Buasai’r athrawon yn cael ‘hartan’ o fy ngweld i mewn noson rieni erbyn hyn!  Pan oeddwn i’n ifanc roedd pob siom fel bricsen a ddaeth, dros y blynyddoedd, yn domen ar ben fy hyder. Roedd gweld rhieni yn casglu plant o’r ysgol neu o bartïon a phob cwts, pob gwên yn caledu fy nghalon fymryn yn fwy.   Sera fyddai’n dod i fy nghasglu i o’r ysgol ac roedd ei sgyrsiau yn y car yn gampweithiau o ddiflastod pur.

Fy nghas wers yn ysgol gynradd oedd ABaCh. Gosododd athrawes lanw waith cartref i greu coeden deulu – doedd ganddi ddim clem fy mod i mewn cartref – a minnau heb glem pwy oedd fy rhieni heb sôn am nain a thaid neu ewyrth a modryb! Ni soniais wrth neb, dim ond palu mwy o gelwyddau ac esgus anghofio’r gwaith a’r athrawes yn dweud “Rhoddais wythnos i chi wneud gwaith cartref ddylai gymryd hanner awr a dwyt ti heb allu dod ag unrhyw beth i mi!” Gallaf deimlo’r dagrau’n cronni tu ôl i fy llygaid heddiw a minnau’n eu cadw i mewn. Aeth y dosbarth yn ddistaw, ddistaw gan wybod pam na wnes i’r gwaith . . . Yna ffrwydrais.  Es i’n wallgo ac roedd fy ngwaed yn berwi! Cofiaf sgrechian “Sgen i’m teulu i rhoi ar eich blydi coedan! Sori bo fi ddim yn ‘normal’!” ac yna rhedeg i’r toiled i eistedd yno am byth yn crio a chrio…

Buasai’n well gen i pe bai ‘mam’ wedi cael erthyliad na fy ngadael i i hyn. Neb i’w galw’n deulu nac unman i’w alw’n ‘adra’. Dim gobaith.  Dywedodd rhywun enwog rhyw dro, bardd dwi’n meddwl, “os nad ydym yn gwybod o ble yr ydym yn dod, ni fyddwn i’n gwybod i ble’r ydyn ni’n mynd”. Dwi’n ddi-bwys i bawb. Dwi’n wastraff lle. Dwi’n ddamwain…

Wow! Ocê, ‘wan dwi’n sylwi pa mor ddigalon oedd y blog yna :/ Gobeithio fydda’ i’n fwy o gog nag o gloman ‘fory, ddim a fy mhen yn nghanol yr holl blu ‘ma fel ydw i heddiw!  Cofiwch chi, beth braf ydi cal bwrw bol.  O a plllîîîssss helpwch fi i gyrraedd 400 o ddilynwyr cyn diwedd yr wythnos! Nos da lyflis ❤

 

Advertisements