Eisteddfod Dyffryn Ogwen – Rhyddiaith Blwyddyn 7 – 9

Dyma stori fuddugol Ella Baker – llongyfarchiadau mawr iddi!

 

Y Dasg

Awst 27

Dŵr. Byddwn i fel arfer wedi bod yn ddiolchgar i glywed y gair yma, ond ar y dydd yma roeddwn i’n casau fy hun oherwydd fod gen i glustiau. Am y tro cyntaf yn fy mywyd roedd y gair ‘dŵr’ wedi codi curiad fy nghalon am y rheswm anghywir; oherwydd roeddwn i’n nerfus.

 

Roedd 15 mlynadd wedi treulio ers i mi weld golau am y tro cyntaf, dw i’n siŵr eich bod yn disgwyl y byddwn i’n dathlu’r pen blwydd yma fel unrhyw ben blwydd arall. Ond mae troi yn 15 yn garreg filltir am reswm gwahanol yn fy llwyth i. Pan mae rhywun yn troi yn 15 maen nhw’n oedolyn annibynnol, ac yn waeth byth mae’n rhaid iddyn nhw brofi ei hun.

 

Awst 25

Roedd arweinwyr y llwyth yn trafod beth roeddwn i orfod ei wneud i brofi fy hun, ac oherwydd fy chwilfrydedd penderfynais i glustfeinio. Ar ôl ychydig o sgwrsio tawelodd pawb yn sydyn.

 

“Rydym yma heddiw i drafod sut gall Abu brofi ei hun. Rydym ni gyd yn gwybod fod Abu, mab Kumbukani, yn troi yn 15 mewn ymhen tridiau.” Dyna’r amser cyntaf i mi glywed enw fy nhad ers i’r anialwch gymryd ef a’m brawd hŷn, Ra, ddwy flynedd  ynghynt. Ond ceisiais beidio â meddwl am hynny, felly meddyliais am y sgwrs tu fewn i’r babell.

 

“Mae ei dasg wedi ei phenderfynu, mewn pedwar diwrnod bydd Abu yn teithio ar ei ben ei hun i ddarganfod ffynhonnell dŵr i’n llwyth.” Y rheswm dros hyn ydi oherwydd mae fy llwyth i’n gwersylla ger ffynhonnell dŵr am dymor cyfan, ond cyn i’r llwyth deithio i’r gwersyll nesaf mae’n rhaid i rywun ddarganfod y ffynhonnell dŵr agosaf. Dyna beth roedd rhaid i mi ei wneud. Ac ers hynny roedd y gair ‘dŵr’ wedi cael ei ysgythru ar fy meddwl.

 

Awst 27

Ar y noson olaf o’m plentyndod gorweddais yn fy sach gysgu yn syllu ar fy mrodyr . Roeddwn i’n arfer rhannu pabell efo Ra – fy mrawd hŷn, ond ers i’r anialwch ei herwgipio ef ac fy nhad, dw i’n rhannu pabell efo fy mrodyr iau: Tavi a Bassam. Drws nesaf yn y babell efo mam mae fy chwiorydd iau: Makena, Jaha a Zakai fy mrawd bach deuflwydd oed. Ac i orffen mae fy chwaer hŷn, Oni, mewn pabell gyda’i chariad a’i babi newydd.

 

Clywais Bassam yn anadlu’n dawel a gwelais ei anadl yn glir yn y tywyllwch, roedd y sŵn fel y môr yn dod i mewn ac allan, i mewn ac allan…

 

Awst 28

Deffrais i sŵn lleisiau tu allan i’r babell, wrth i mi gerdded yn ofalus allan o’r babell gwelais fod rhai o’r llwyth wedi codi yn barod ac wedi dechrau gweithio. O gornel fy llygaid gwelais ffigwr yn cerdded tuag ata i, prentis yr arweinydd ysbrydol oedd hi.

“Mae Imamu yn gofyn amdanat ti,” meddai yn dawel cyn troi a dechrau fy arwain at babell Imamu, yr arweinydd ysbrydol.

 

Treuliodd Imamu y bore cyfan peintio’r marciau llwythol ar fy wyneb, brest a fy mreichiau, yn ogystal â mwmian rhyw fath o swyn i fy niogelu ar fy nhaith. Wedyn wrth i mi orffen fy mrecwast daeth yr arweinwr, Okoro, ata i a dweud fod y seremoni Kukua yn dechrau am hanner dydd. Y seremoni Kakua ydi seremoni dod yn oedolyn.

 

Gwisgais y wisg seremonïol cyn cerdded allan o fy mhabell i benlinio o flaen y tân. Y cam cyntaf o Kukua oedd dweud yr Ahadi, sef llw arbennig. Wrth ddweud yr Ahadi torrais fy ngwallt, o fod hyd at waelod fy nghefn hyd at fy ysgwyddau, a’i osod ar ddarn o risgl coeden. Yr ail gam o Kukua oedd cael gwaed o fy llaw i ychwanegu at fy ngwallt, mae rhain yn symbol o fy hunaniaeth. Yn olaf rhoddais y darn o risgl coeden ar y tân i ddangos fy mod i’n deall difrifoldeb y seremoni.

 

Ar ôl cael bwyd a golchi’r marciau llwythol i ffwrdd roedd hi’n dechrau tywyllu. I orffen y dydd roedd rhaid mynd i babell Okoro, yr arweinydd, a chael fy nhatŵs. Un dros fy nghalon i ddangos cariad yn cysylltu â thatŵs yn mynd yr holl ffordd lawr fy mraich gryfaf (fy mraich chwith) sy’n symbol o gryfder, ac yn olaf tatŵ fy llwyth ar fy nhalcen i ddangos ffyddlondeb at fy nheulu.

 

Erbyn i mi orffen gael fy nhatŵs roedd llawer o bobl wedi mynd i’w gwely yn barod, felly penderfynais fynd hefyd, er fy mod i’n gwybod na fyddwn i’n gallu cysgu.

 

Awst 29

 

I feddwl fod y llwyth cyfan yn dibynnu arna i ddarganfod ein gwersyll nesaf ac roedd yna siawns da na fyddwn i’n goroesi’r daith ond roeddwn i’n eithaf hyderus. Roeddwn i am deithio allan i safana Affrica ar fy mhen fy hun, wel bron. Fy unig gwmni oedd Vumbi, fy nghamel a Baako, fy ffrind gorau; dingo. Mae dingo yn debyg i flaidd gyda chôt fyr ond maen nhw’r un lliw â thywod.

 

Ar ôl pacio’r hanfodion gafaelais yn fy ngwaywffon a fy nghyllell wedyn mynd i ddweud hwyl fawr. Nesaf gafaelais ar dennyn Vumbi, chwibanais am Baako a dechreuais ar fy nhaith. Roeddwn i wedi gwisgo siorts brown golau a chôt o fwd caled ar waelod fy nhraed i’w hatal rhag llosgi ar y tywod.

 

Disgleiriodd yr haul yn gryf arna i wrth i mi gerdded drwy’r safana. Roeddwn i’n gwybod ei bod hi tua 42°c ac roedd Baako yn cytuno oherwydd roedd ei dafod yn hongian allan o’i geg agored wrth iddo loncian o gwmpas.

 

Yn sydyn cododd glustiau Baako a throdd i edrych i’r dde, cwrcydais i lawr yn y gwair tal gan ollwng gafael ar dennyn Vumbi. Dechreuodd Baako gerdded tuag at beth bynnag welodd cyn plygu lawr i’w arogli, clywais hisian distaw a gwelais Baako yn neidio yn ôl mewn syndod. Pan gropiais at Baako gwelais neidr mor ddu â bol buwch yn syllu arna i, yn ofalus gafaelais yng ngwâr Baako a chodais yn araf cyn cerdded yn ôl a baglu dros garreg.

 

Yn hwyrach yn y dydd gwelais gyr o sebras yn rhedeg o’r De, ond nid oedd y sebras yma yn ddu a gwyn yn unig. Roedd o’r pen glin i lawr yn frown tywyll fel mwd: cymysgedd o dywod a dŵr. Roedd rhaid fod y sebras wedi dod o ryw fath o werddon, oasis llawn dŵr! Dechreuais i’r de yn syth, er fod Baako wedi drysu am y newid  cyfeiriad dilynodd yn ufudd. Erbyn i ni gyrraedd yr anialwch penderfynais dringo ar gefn Vumbi a’i farchogaeth am ychydig.

 

Yn gyflymach na cheetah gwelais gwmwl o lwch yn codi fel tsunami, ond nid tsunami oedd o. Storm dywod oedd o. Chwibanais am Baako i aros yn agos ac estynnais fy mwgwd, yn ceisio peidio cynhyrfu neidiais oddi ar gefn Vumbi a throi fy nghefn at y storm. Mewn ychydig o eiliadau roedd y storm wedi cyrraedd a doeddwn i methu gweld o gwbl. Digwyddodd popeth mor sydyn, collais olwg ar Vumbi a Baako a chefais fy ngorfodi i’r llawr. Tarais fy mhen ar y llawr yn galed a throdd y byd yn ddu, ond ar yr eiliad olaf gwelais ffigwr mewn clogyn yn dod ata i.

 

Awst 30

Deffrais ond methais agor fy llygaid, roedden nhw wedi ei selio ar gau gyda thywod. Clywais anifeiliad yn yfed dŵr o bwll ac adar yn hedfan yn swnllyd o goed, wedyn clywais lais yn dweud:

“Ew, doeddet ti heb baratoi llawer naddo Abu,” roeddwn i’n adnabod y llais ond sut allwn i fod yn ei adnabod? Roedd Ra wedi diflannu ddwy flynedd yn ôl.