Portread Hannah o’i mam, yr ail wobr yn Eisteddfod yr Urdd 2014

Fy Arwr – Fy Mam

 

Fy arwr ydy fy mam, Sarah Cook , oherwydd mae hi’r math o berson mae lot o bobl yn dymuno bod fel hi. Mae ganddi bersonoliaeth bendigedig a pan mae hi’n cerdded i mewn i’r ystafell, mae’r ystafell yn goleuo i fyny fel yr haul ar ddiwrnod braf. Mae pawb sy’n ei chyfarfod hi yn meddwl ei bod hi’n garedig, hapus a cyfeillgar.

Blwyddyn yn ôl fe wnes i symud i Cymru o Lloger a gadael fy Nain, Taid, a ewythr ar ôl yn Banbury, Rhydychen. Roedd hyn yn anodd ond mae fy mam wedi fy helpu gymaint i setlo yng Nghymru.  Dewisodd hi ysgol bendigedig i mi fynd iddi, sef  ‘Ysgol Dyffryn Ogwen’. Roeddwn i yn ysgol Dyffryn Ogwen am wythnos cyn mynd i ‘Canolfan Iaith’ at Mrs Lake a Miss Lewis ym Mhorthmadog am wyth wythnos.  Erbyn hyn dwi wedi dysgu sut i siarad Cymraeg ac mae fy mam wedi fy nghynnal i trwy popeth. Pan es i yn ôl i’r ysgol roedd hi’n fy helpu i cael ffrindiau da, ac mae hi’n gadael i fi gael ‘sleep overs’ a mynd i’r sinema a pethau felly. Trwy popeth mae hi’n gwrando arna i ac mae hi’n deall sut ydw i’n teimlo. Dwi ddim eisiau gofyn am ddim mwy na beth mae fy mam yn rhoi i fi.

Mae fy mam yn ddoniol; ers i ni symud i Gymru dwi’n dysgu fy mam i siarad Cymraeg a bob diwrnod ar ôl ysgol pan dwi’n mynd adra mae’n gofyn ‘gefaist ti ddiwrnod da?’ a pan dwi’n ateb ‘do!’ mae hi’n dweud ‘bendigedig swag!!!!’.

Mae fy mam yn garedig, deallus, ac wastad yno i mi ac ei ffrindiau ac ei theulu. Pan dwi’n drist mae hi’n codi fy nghalon. Ond ar nodyn difrifol mae hi’n ddoeth ac yn gwybod beth i wneud i gael busnes llwyddiannus. Ond beth sy’n bwysicach na hynny yw ei bod hi yn fam i mi ac rydw i’n edmygu hi’n fawr iawn am edrych ar fy ôl i’n dda. Rydw i eisiau bod fel fy mam pan fyddaf i’n oedolyn.