Llythyr Beca Nia oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Rhyddiaith Bl7: “Y Tro Olaf” #urdd2014

Fferm Cororion,

Tregarth,

Ionawr 23ain

 Annwyl Gwawr,

Pam Gwawr? Pam fu rhaid i ti fy ngadael? Rwyf yn dy golli gymaint. Nid oes merch arall i mi yn y byd i gyd.

Anghofiaf i fyth y diwrnod hwnnw chwe mlynedd yn ôl. Roeddwn ar fy ffordd i gyfri’r defaid ar y mynydd. Roedd blodau’r grug fel carped piws ar lethrau’r mynydd. Cerddais lawr tuag at Lyn Cororion, lle bendigedig. Dyma ble y byddaf i’n dod pan wyf angen clirio fy meddwl.fY goedwig dal drwchus a chyfoeth o flodau gwyllt hardd yn tyfu yno. Rwyf wedi casglu sawl tusw o flodau yno, eu harogl persawrus yn llenwi fy ffroenau. Eisteddais ar yr hen garreg ar lan y llyn. Carreg gyfforddus gyda mwsogl gwyrdd esmwyth yn tyfu drosti. Wel am gysurus.

Cofiaf ddistawrwydd llethol annaturiol y diwrnod hwnnw.A chofiaf fy llygaid yn teimlo’n drwm yng ngwres yr haul. Yn sydyn fel breuddwyd gwelais y Tylwyth Teg yn dawnsio’n ysgafn fel gloÿnod byw. Roeddynt wedi fy swyno. Ni welais olygfa mor anhygoel o hardd yn fy mywyd. Afreal. Yno’n dawnsio yn eu canol oedd y ferch harddaf a welais i erioed. Gwên felys ar ei hwyneb. Ei gwisg fel papur sidan yn chwythu’n ysgafn yn yr awel. Adenydd fel petalau tryloyw. Gwallt hir cyrliog fel aur a llygaid mawr tyner yn edrych arnaf a’m swyno. Ie, ti oedd hi Gwawr. Ymhen dim cytunaist fy mhriodi – fi oedd y dyn hapusaf yn y byd i gyd. Addewais i beidio â dy gyffwrdd â haearn fel y gofynaist i mi. Wrth edrych yn ôl meddyliais fod hyn yn beth rhyfedd iawn i ofyn. Ond dyna ni, roeddwn wedi disgyn dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad â thi. Buaswn wedi roi’r byd i gyd i ti.

Roedd diwrnod ein priodas yn berffaith, yn hudolus. Roeddet ti mewn gwisg wen at dy draed a phenwisg o flodau gwyllt fioled a gwyn ar dy ben. Cariaist dusw o flodau gwyllt oedd wedi eu casglu gan y Tylwyth Teg. Cawsom ddiwrnod bythgofiadwy. Roedd y gwahoddedigion mor smart a’r teulu mor falch ohonom. Fferm Cororion oedd ein anrheg briodas gan fy rhieni. Roedd y Tylwyth Teg yn hael hefyd, cawsom yr holl anifeiliaid ganddynt. Gwartheg, defaid, moch, merlen, ieir a hyd yn oed hwyaid i nofio ar y llyn.

Chwe mlynedd bendigedig, ie, dyna’r cwbl. Dim ond chwe mlynedd gefais i yn dy gwmni. Roeddem mor hapus. Rhoddaist ddau o blant i mi, merch sef Lois ac Elis ein mab. Y ddau yn dy addoli fel fi. Troaist Fferm Cororian yn gartref clyd i ni ein pedwar. Edrychaist ar ôl ein plant tra roeddwn allan yn ffermio bob dydd. Roeddwn mor hapus o gael dod adref at fy nheulu ar ddiwedd bob dydd. Cael eistedd o amgylch y bwrdd i fwyta, ein pedwar yn siarad a chwerthin dros y tŷ. Lle mae’r chwerthin erbyn heddiw?

Ble wyt ti Gwawr fach? Wyt ti’n fy ngweld i? Yn fy nghlywed i? Damwain oedd hi. Mi wyddost yn iawn na fuaswn i byth yn dy frifo di. Rwyf dy angen di, mae ein plant, Lois ac Elis dy angen di. Maent yn gweiddi a chrio bob dydd ar dy ôl. Pam, o pam, oedd rhaid ceisio dal y ferlen y diwrnod dychrynllyd hwnnw? Taflais y ffrwyn atat i ti gael dal y ferlen, tarodd dy wyneb. Anghofiais fod darn o haearn ar y ffrwyn. Wnes i ddim meddwl. Meddwl dim am yr addewid i ti. Ymhen dim roeddet wedi codi i’r awyr a hedfan at Lyn Cororion, diflanaist o’r golwg i’r dŵr ac ar dy ôl y gwartheg, y defaid, y moch, y ferlen, yr ieir a’r hwyaid. Dyna’r tro olaf i mi a’r plant weld yr anifeiliaid.

Ac yna, daethost i’m gweld . . . Rwyf am ddiolch i ti Gwawr am ddod at y ffenestr y noson o’r blaen i ymweld â mi. Roeddwn mor falch dy weld eto. Roedd y plant yn ddifrifol wael. Edrychaist drwy ffenestr y llofft arnaf fi a’r plant. Roedd dagrau ar dy ruddiau, dywedaist wrthyf am wisgo fy nghot am ein mab a phais ei mam am ein merch. Dyna wnes i. Edrychais drwy’r ffenestr ac roeddet wedi mynd. Trannoeth roedd y plant yn iach. Tyrd yn ôl ataf Gwawr. Rwy’n erfyn arnat ti.

Bob dydd af at y llyn, eisteddaf yma ar yr hen garreg yn hel meddyliau. Credaf weithiau fy mod i’n teimlo dy anadl ar gefn fy ngwddf. Yn clywed dy wisg sidan yn symud yn yr awel. Rwyf am adael y llythyr hwn dan ein carreg ar lan y llyn. Gweddiaf am gael dy weld eto ac mai nid dy lygaid gloyw yn y ffenestr oedd y tro olaf . . .

 

Cofion cynhesaf,

dy annwyl ŵr,

Gwilym x

 

 

Advertisements