Ymweliad Blwyddyn 9 â’r Ysgwrn, gan Efa

Ddydd Mercher, Hydref yr 8fed aethom i’r Ysgwrn sef cartref Elis Humphrey Evans, Hedd Wyn. Roedd y daith yno’n gyffrous iawn ac yn droellog ofnadwy. Roedd hi’n ddiwrnod oer iawn o fis Hydref, y dail yn chwythu i bob man a’r gwynt yn fain. Arhosodd y bws ger llyn enfawr, roedd pawb yn holi pam ein bod ni wedi aros fan hyn? Dywedodd Mrs Povey mai Llyn Tryweryn oedd y llyn hyfryd yma. Cawson ni hanes y llyn sy’n drist a diddorol. Un o’r ffeithiau hynny oedd pam mae lefel y dŵr yn isel rydych yn gallu gweld pont y pentref. Roedd hynny’n ddiddorol iawn. Enw’r pentref cyn ei foddi oedd Capel Celyn, ac roedd yn ddiddorol gwybod hynny. Lôn gul iawn a throellog oedd fyny i’r Ysgwrn. Pan gyrhaeddon ni waelod y ffordd roedd arwydd yno’n dweud Yr Ysgwrn, roeddem yn gwybod ein bod ar dir Hedd Wyn. Cawson ni ein harwain i’r beudy, lle roedd teulu Hedd Wyn yn cadw gwartheg yn ystod eu hadeg nhw. Roedd y beudy’n enfawr a thyllau yn y walia, roedd hi’n hawdd dweud ei fod yn hen iawn. Roedd Naomi yno yn siarad am hanes Hedd Wyn efo ni. Wedyn, daeth Gerald i mewn, ac ein croesawu i’r Ysgwrn. Aeth Gerald a Naomi â ni mewn i’r tŷ mewn grwpiau.

Lle bach oedd y gegin, wn i ddim sut oedd y teulu i gyd yn gallu bod mewn yno ar yr un adeg. Yn y gegin roedd bwrdd bychan iawn yno a channwyll ar ganol y bwrdd yn goleuo’r ystafell. Yn goleuo’r ystafell i gyd roedd y tân glo. Y tân oedd yn cynhesu’r ystafell oer, ac yn ddigon poeth i ferwi dŵr i greu panad arno. Roedd gan y gegin lawr llechi ac roedd hynny’n gwneud i’r ystafell fod yn oerach. Hefyd roedd yna lawer o hen lyfrau yn y gegin ac roedden nhw’n yn llychlyd iawn.

Y parlwr oedd ystafell bwysicaf Yr Ysgwrn. Cadeiriau Hedd Wyn oedd yno 6 ohonynt i gyd a lle tân bychan iawn. Yng nghornel yr ystafell roedd Y Gadair Ddu. Cadair hyfryd iawn oedd Y Gadair Ddu, a llawer o symbolau Celtaidd a Chymreig arni. Dywedodd Naomi nad oedd y teulu wedi bod yn defnyddio’r ystafell oherwydd bod yr ystafell yn llawn o gadeiriau Elis. Pan enillodd Hedd Wyn ei gadair gyntaf roedd piano yn y parlwr yn ogystal, ond wrth iddo ennill mwy a mwy o gadeiriau roedd rhaid symud y piano i’r gegin. Roedd y parlwr yn ystafell ddeniadol iawn gyda lluniau’r teulu a lluniau’r milwyr ar y waliau. Y Gadair Ddu oedd y gadair fwyaf yno, roedd llawer o ddarnau coll arno gan fod pobl wedi eu malu, ond roedd Gerald wedi eu cadw i gyd. Cefais brofiad gwych yn y tŷ o weld sut oedd y teulu’n byw yn Yr Ysgwrn.

Enillodd Hedd Wyn Y Gadair Ddu yn Eisteddfod Genedlaethol Pen Bedw ym 1917. Ond, yn anffodus, doedd Hedd Wyn ddim yno, roedd wedi ei ladd yn y rhyfel yng Ngwlad Belg. Roedd Hedd Wyn yn un o 30,000 o filwyr gafodd eu lladd ym mrwydr Cefn Pilckem. Pan gyhoeddodd yr archdderwydd Dyfed bod Hedd Wyn wedi marw roedd y gynulleidfa wedi eu syfrdanu. Pan gyhoeddwyd bod Hedd Wyn wedi marw yn yr eisteddfod, cafodd y Gadair ei henwi fel Y Gadair Ddu. Ar ôl yr eiseddfod cafodd Y Gadair ei chludo i Drawsfynydd ar drên. Pan gyrhaeddodd y trên yn Nhrawsfynydd cafodd y gadair ei chludo i’r Ysgwrn ar drol a cheffyl a chael ei gosod yn y parlwr gyda phob cadair arall – mae hi wedi bod ers hynny.

Advertisements