Stori fuddugol Buddug – Rhyddiaith Blwyddyn 9, Eisteddfod yr Urdd

Ymson mewn argyfwng.

Be dw i am wneud?! HEDDIW mae’r diwrnod cau! Dwi wedi cael y dasg ers wythnosau! Ond mae bywyd mor brysur dydi ? Yn enwedig i hogan ifanc boblogiadd fel fi! Dw i di bod yn brysur yn gwneud fy ngwaith ysgol di-ddiwedd, yn mynd i ymarferion chwaraeon bob awr o’r dydd, trio ymarfer ar gyfer yr arholiad piano sydd gen i ddiwedd y mis, heb sôn am drio ffeindio amser i gymdeithasu efo ffrindiau. A rwan mae’r unfed awr ar ddeg wedi dod a does gen i ddim syniad sut i DDECHRAU sgwennu rhywbeth sy’n ddigon da i’w anfon i Steddfod yr Urdd! Be wna i?!!!!
O do, dw i wedi hel lot o syniadau. Lot fawr. Yn union fel llwyth o blant eraill . Pethau fel……………..ymson ar ganol achos boddi Tryweryn, neu ymson person yn drysu eisiau mynd i’r toiled . Ymson mewn argyfwng daearyddol fel tswnami, daeargryn neu, i fod yn amserol, ymson mewn llifogydd. Pa un allai ddewis?! Un o’r rhain, neu ddyliwn i drio bod yn wahanol? Mae beirniaid wastad yn yn licio gwaith sy’n “wahanol” dydi? Yndi? Dibynnu ar oed y beirniad dydi? Ydyn nhw’n cŵl ac yn ifanc, neu’n dipyn o hen grocs? Mae’n well i mi edrych yn y rhestr testunau….O wel, dydw i ddim wedi clywed am yr un ohonyn nhw o’r blaen. Doedd hynny fawr o help nag oedd?
Dwi WEDI bod yn cynlluio, do wir. Meddwl am syniadau, meddwl am leoliadau ac am gymeriadau. Meddwl am ansoddeiriau y dylwn i gynnwys yn fy ngwaith, ansoddeiriau “cyfoethog” mae Miss yn eu galw nhw – fel “anferth” yn lle “mawr” ac “erchyll” yn lle “drwg” a.y.y.b. Mae gen i drosiad da hefyd, -fy ffrindiau’n gôr yn chwerthin. Ond sut dw i am ei ddefnyddio fo? Be di’r pwynt gwneud yr holl ymarferion ma yn y gwersi Cymraeg os nad oes gen i syniad am be i sgwennu yn y lle cyntaf?!
Be ydi pwynt cystadlu beth bynnag? Mab i ryw fardd o Sir Fôn, neu rywun sy’n perthyn i’r beirniad neith ennill siawns! Yr unig reswm dwi’n cystadlu ydi i gadw mam a nain yn hapus! Mi fasan nhw mor falch tasan nhw’n gallu cerdded rownd maes y steddfod yn eu linen newydd yn dweud fod eu merch neu wyres yn enillydd cenedlaethol. On fydda i ddim na fydda? Mi fydd na ryw athrylith o’r de wedi meddwl am rywbeth hollol ffantastig fel pwnc, rhywbeth fel yr Holocaust, dyfodol yr Iaith Gymraeg, cynhesu byd-eang neu dlodi yn y Trydydd Byd. A fi? Mae fy mhapur cynllunio i yn wag, ar wahan i ambell lun o flodyn llipa a naw calon.O ia, ac enw fy nghariad diweddara…Ifan…Ifan…Ifs….Dw i’n licio sgwennu ei enw fo drosodd a throsodd. Dro ar ôl tro. Ifan…. Ifa…. Ond neith hynny ddim gosod medal am fy ngwddw na wneith? Dw i newydd dynnu llun wyth calon arall ac enw Ifan yn y canol. Del….
A be ydi “ymson” yn y lle cyntaf? Pwy sydd eisiau gwybod beth sy’n mynd ymlaen ym mhen rhywun BOB eiliad o bob dydd? Cerdd, dw i’n dallt – mae pawb yn licio barddoniaeth dydi? Mae stori hyd yn oed yn iawn, weithiau. Ond “ymson” – syniad pwy oedd rhoi ymson yn y rhestr testunau?
A fan yma ydw i heddiw, yn trio meddwl am rywbeth gwefreiddiol i’w roi ar bapur. Rhywbeth y bydd pob beirniad yn rhyfeddu ato, a phawb yn cael eu dallu ganddo fo. Mae’n rhyfedd faint o wahanol luniau dw i’n gallu eu creu allan o’r patrymau yn fy mhapur wal. Dydw i byth yn sylwi arno fo fel arfer, ond heddiw, mae o’n llawn o bobl a siapiau o bob math. Clown wedi meddwi ac eliffant efo pump coes. Rhyfedd de?
Wn i ! Ymson anifail mewn caethiwed! Dyna syniad da. Digon o gyfle i fod yn wreiddiol ac yn llawn teimladau yr un pryd. Da iawn rwan. Reit, sut ddechreua i???
Brrr Brrr
Pam mae’n rhaid i ffôn rhywun ganu bob tro mae rhywun yn cael syniad da? O na! Elen! Gret, dw i wrth fy modd dy fod di wedi gorffen dy ymson ar gyfer eisteddfod yr Urdd. Ond, ymson panda – PAM?!!!! Sut fedra i lunio ymson anifail rwan? Di bywyd, na eisteddfodau, ddim yn deg!
Fe ddwedodd fy athrawes fod yn rhaid i ni gynnwys idiom yn ein gwaith, ac fel hogan dda, dyma fi yn rhoi un i mewn wrth orffen. Rwy’n ffarwelio efo’r freuddwyd o ennill medal a’r siawns o ennill clod gan fy nheulu. Rydw i am anghofio am drio meddwl “y tu allan i’r bocs” ac am ansoddeiriau cyfoethog. Rydw yn rhoi’r ffidil yn y to!