Stori Josh – Wythnos Atal Creu 2013

Stori Josh – Helpu Atal Creu 2013

 Gwnaethom y fideo yma i helpu atal bwlio ar gyfer cystadleuaeth “Helpu Atal Creu” Llywodraeth Cymru adeg Wythnos Gwrth-fwlio fis Tachwedd 2013. Yn fy ngrŵp i roedd Dylan, Josh a Morgan.  Casglon ni lawer o syniadau at ei gilydd i greu’r ffilm ac yna dewis y syniad gorau.  Dyna sut y dechreuodd “Stori Josh”.  Defnyddiais i feddalwedd iMovie i greu’r ffilm. Doedd y ffilm ddim yn cael bod yn fwy na dau funud o hyd ac roedd hynny’n anodd i ni, oherwydd roedd gennym ni lawer o syniadau! Cymerodd hi dri diwrnod i wneud y ffilm gan gynnwys y gwaith golygu.  Anfonon ni y ffilm i’r gystadleuaeth drwy ei gosod ar sianel YouTube yr ysgol ac yna daeth y canlyniad . . . roedden ni wedi dod yn AIL trwy Gymru i gyd yn yr Adran Uwchradd!  Canlyniad gwych ac rydyn ni’n falch iawn o’r ffilm – ewch i’w gweld ar 

http://www.youtube.com/watch?v=lG2ZRPWvpkc

Ioan (Blwyddyn 8)

Advertisements