Stori Fuddugol Martha, Eisteddfod Dyffryn Ogwen

Siom

” ‘Da chi’n iawn miss?’

Edrychais ar Sion yn wirion. “Esgusodwch fi?” meddwn yn ddryslyd.

Roedd Sion yn edrych yn wahanol, roedd o wedi tyfu ers y Nadolig…ie? Na, nes i’m gweld y teulu Williams drws nesaf yn ystod y Nadolig. Pasg? Ie, Pasg. O, Arglwydd, dwi heb weld y teulu drws nesaf ers blwyddyn a hanner.

“Ymmm, miss? You ok? Should I get mum?” meddai Jaden gyda golwg boenus ar ei wyneb.

“Na, dwi’n iawn diolch Jaden, dwi’n gallu siarad Cymraeg wyddoch chi,” meddwn yn falch gan wenu.

“Oh, ie, I know miss, just can’t be bothered speaking Welsh all the time ie,” meddai, gan osgoi edrych i fyw fy llygaid. Edrychais arno mewn dryswch.

“Wel, s’well i fi fynd…” meddai Jaden, mewn embaras.

“O’r gorau Jaden, wela i di o gwmpas,” meddwn gan ddechrau cerdded nôl i’r tŷ yn ddigalon.

 

Caeais y drws a rhoi’r goriad ym mhoced fy nghardigan wlân, a cherdded yn araf tuag at yr ystafell fyw. Eisteddais i lawr ar y gadair freichiau ac ochneidio. Edrychais o gwmpas yr ystafell. Roedd yna gymaint o hanes mewn un ystafell fechan.  Er mor hen, roedd y soffas coch moethus dal yma, ers 1962 gyda’u cefnau ar yr waliau hen, llychlyd gyda hen bapur wal blodeuog arno, yn dechrau plicio. Ar y waliau roedd llawer o fframiau pren gyda erthyglau papur newydd wedi eu harddangos yn dwt tu fewn. Gwenais. Roedd pob un o’r erthyglau hyn yn sôn am brotestiadau a oedd yn ymladd dros hawliau yr iaith Gymraeg. Roedd pob erthygl mewn trefn gronolegol, yn cychwyn uwchben yr hen gadair werdd, ac yn gorffen uwchben fy nghadair i, y gadair freichiau las. Ond y llun cyntaf ‘na, yw fy ffefryn.

 

‘Trefechan Bridge Protest Causes Havoc’

 

…………………………………………………………………………………………………………….

1963

“Alwena! Rho’r poster ‘na lan fan acw!” sibrydodd Nansi wrth fy ochr.

“Ble?” meddais gan drio edrych ar y ffenestr yn y tywyllwch.

“Fan ‘na! Uwch ben yr arwydd ‘Post Office’. “

 

Roedd hi’n ganol nos, ac roeddwn i, Nansi, fy ffrind gorau ac ugain arall ohonom ni tu allan i’r swyddfa bost yn rhoi posteri i fyny ar y ffenestri cyn iddi ddechrau goleuo. Y cynllun oedd rhoi gymaint o bosteri ar y ffenestri cyn y wawr, yn y gobaith y byddai’r heddlu yn eu gweld, ac efallai hyd yn oed y papur leol. Roedd hyn yn mynd i fod yn enfawr.

Ar y posteri yma roedd ein barn. Llais cenhedlaeth ifanc Cymru. Roeddem yn credu yn gryf nad oedd digon o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y wlad. Roedd y swyddfa bost wedi cael ei alw yn ‘Post Office’ ! Roedd e’n hurt bost. Roedden ni’n mynd i gychwyn rhywbeth. Rhywbeth mawr. Roedd y posteri yn datgan ‘Statws Swyddogol i’r Gymraeg’ a ‘Hawl i’r Gymraeg’ a.y.b. Roeddwn wedi treulio’r diwrnod cynt i gyd yn paratoi rhain, a nawr roedd yn bryd i ni gael dweud ein dweud ar stryd fawr Aberystwyth. 

“Tyrd ‘laen, Alwena, fydd pobl y dref yn dechrau deffro nawr, rhaid i ni fynd,” Pwyll oedd yna, yn tynnu ar fy mraich. Dwi wedi bod yn ffrindie dag ef ers i ni fod yn blant bach. Mae e’n ffrind agos iawn, yn agosach na Nansi a dweud y gwir. Dwi wir methu dychmygu bywyd hebddo, mae e wastad wedi bod yna, yn helpu fi ‘da bywyd, fel brawd mawr. Mae’n gwybod fy holl gyfrinachau, ac mae o wedi bod yn fy herian ers oesoedd am eisiau cael plentyn o’r enw Saffir, a finnau yn ei herian yn ôl am fod eisiau gweithio mewn garej. Dwi dal i wenu wrth gofio am yr adegau hyn.

 

Roedd Iolo a Robat yn gwenu arna i a chodi llaw, codais law arnynt yn ôl. Mae’n nhw’n ffrindiau da, wrth eu boddau gyda chomedi. Roedd y ddau yn gesus, mae’n rhaid i mi ddweud, yn dweud jôcs bach difyr bob dydd, a chwerthin bob dydd.

 

Wrth i mi gerdded yn ôl i’r tŷ edrychais i fyny at lampau’r stryd gan feddwl am ddydd Sul. Pe na bai hyn yn gweithio, doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai. Roedd o’n mynd i fod yn hanesyddol, dwi’n gallu ei deimlo fo.

 ……………………………………………………………………………………………………………

 

 

Dwi’n cofio’r noson yna yn glir iawn. Y tensiwn, y wefr o wneud rhywbeth dros eich gwlad, yr ias sy’n mynd lawr eich asgwrn cefn, y cryfder rydych yn teimlo, fel petai chi’n gallu gwneud rhywbeth.  Wrth gwrs, mae’r teimlad yna wedi hen fynd, mewn gwirionedd dwi methu teimlo dim byd yn yr hen ddwylo ma’ dim mwy, ers i mi gael achos drwg o athritis.

 

Edrychais ar y soffa hir o’m blaen, yma bu Nansi, Iolo a Robat i gyd yn chwerthin yn braf ar jôc ddoniol.

 …………………………………………………………………………………………………………….

Pobl yn gweiddi. Cyrn ceir yn sgrechian. Awyrgylch o dyndra. Arogl mwg a phetrol yn llenwi’r aer. Cerddais tuag at y bont yn falch. Estynnais am fy mag a thynnu allan boster newydd sbon, yn dweud ‘ Statws i’r iaith Gymraeg’. Cerddais yn araf tuag at y criw o bobl ifanc, yn teimlo llygaid y bobl leol fel hoelion ar fy nghefn.

 

Doeddwn ddim yn gwybod be i wneud, doedd yr holl ddigwyddiad heb gael ei drefnu yn iawn, ond i’m rhyddhad gwelais Nansi wrth ochr y bont yn gafael mewn poster coch a melyn, llachar. Wrth i mi gerdded tuag at Nansi, gwelais Pwyll yn eistedd yn ganol y lôn gyda Iolo a Robat bob ochr iddo. Roedd o’n edrych yn hollol gyfforddus yno, fel petai’n gorwedd yn ei wely gartref. Dyna yw un o’r pethau dwi’n hoffi am Pwyll, meddyliais gan wenu, beth bynnag yw’r sefyllfa, bydd Pwyll wastad yn ddigyffro ac wastad yn gwybod sut i ddelio gyda’r broblem.

 

Edrychodd Pwyll arna i a chodi llaw, yn fy nghymell i mi fynd ato.

“Dwi’n mynd at Pwyll,” meddwn wrth Nansi yn dawel.

“Iawn, bydda’n ofalus, o’r gorau? Dwi ‘di clywed fod yr heddlu ar eu ffordd,” meddai hithau yn ôl, heb dynnu ei llygaid saffir oddi ar y ceir a oedd nawr yn mynd yn ddiamynedd iawn.

“Diolch,” sibrydais, wrth afael yn ei llaw a’i wasgu yn dynn.

 

Cerddais drwy’r dorf yn dal fy mhoster uwch fy mhen. Edrychodd llawer o bobl arna i, rhai yn gwenu’n ddiolchgar, rhai yn gwgu’n flin arna i. Wrth i mi gerdded at Pwyll, gwelais fod Iolo a Robat wedi mynd i helpu dyn o’r enw Meic i wthio car yn ôl rhag brifo un o’r merched iau.  Edrychais mewn sioc, awn nhw mewn i drwbl? Eisteddais wrth ochr Pwyll gan wylio’r olygfa bythgofiadwy o’m blaen. Pum bachgen yn gwthio’r car yn ôl i’r chwith, grŵp o genod yn atal i’r dorf gerdded heibio o’m blaen a bron i 50 person ifanc yn gorwedd i lawr yn hamddenol ar yr ochr dde i’r lôn ynghanol Pont Trefechan. Anhygoel.

 

“Ti’n iawn Alwena?” sibrydodd Pwyll yn fy nghlust.

Edrychais arno, roedd o’n edrych mor hen, mor aeddfed yn ngolau’r wawr gynnar.  Ar yr eiliad yno, roeddwn yn gwybod fy mod i’n ei garu. Roedd yn amlwg fy mod i wedi ers blynyddoedd. Edrychais ar ei wefusau a chochi. Bydd o’n mynd i ffwrdd i’r fyddin flwyddyn nesaf, ac mae’n bosib wna i byth ei weld o eto. Roedd ganddo olwg trist yn ei lygaid emrallt wrth iddo edrych arna i. Roedd o’n gwybod am be roeddwn yn meddwl. Daeth yn nes ac mewn eiliad, roeddwn yn ei gusanu. Golchodd popeth i ffwrdd, y sŵn, yr embaras, yr ofn, pob dim. Roedd o fe mai ni oedd yr unig bobol yn y byd. Perffaith…

…………………………………………………………………………………………………………………………

Yn y gadair werdd gyferbyn â fy un i, roedd Pwyll yn arfer eistedd, yn gwenu arna i bob dydd yn ei henoed. Roedd ganddo sbectol drwchus ar ei wyneb gwenog a roedd ei ddwylo yn ysgwyd drwy’r adeg. Roedden ni wedi bod yn briod am bumdeg mlynedd cariadus a hapus. Pum mlynedd ar ôl priodi, mi es i’n feichiog. Roedd o mor wych, cael y dillad yn barod, a pheintio’r ystafell sbâr  yn las yn barod ar gyfer Saffir fach. Roeddwn yn 5 mis yn feichiog pan fu farw. Roedd o’n anodd. Mi fues i’n crio am wythnosau ac roedd Pwyll druan mor wan.

 

 

Hyd yn oed ar ôl yr holl amser yma, mae Pwyll dal yn dod ata i bob dydd yn gofyn i mi  “Ti’n iawn, Alwena?” Yn union fel y gwnaeth yn ystod y brotest, a wedyn  yn fy nghusanu. A hyd yn oed ar ôl yr holl amser yma, mae’r gusan dal yn golchi popeth i ffwrdd. Hynny yw, tan y llynedd. Fe aeth yn sâl, a bu farw. A nawr dim ond fi sydd. Mae Nansi wedi symud i Awstralia i fyw gyda’i theulu, bu farw Iolo a Robat yn y fyddin, ble byddai bywyd Pwyll wedi dod i ddiwedd hefyd, heblaw i mi ei berswadio i beidio mynd. Dim ond fi sydd ar ôl.

 

Ar ôl y brotest ym Mhont Trefechan dechreuodd pethau. Roedd yna fwy a mwy o brotestiadau a daeth yna fwy a mwy o hawliau i’r Gymraeg. Roedd o’n wych. Ond nawr, mae’n teimlo fel ein bod yn ôl i ble gychwynnon ni. Pan roeddwn yn siarad efo Jaden y bore hwnnw, a hwnnw’n dweud nad oedd eisiau siarad Cymraeg, roeddwn mor siomedig. Fel petai’r brotest ‘na ar y bont am ddim byd. Dwi wedi bod trwy gymaint, mae fy mywyd wedi bod yn llawn uchafbwyntiau a nawr, dwi’n 73 oed, a tydi pobl ‘ddim yn bothered’ i siarad yr iaith wnes i roi gymaint o amser i drio ei hachub. Mae’n diflannu’n araf bach….

Advertisements